Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cymru'n Gweithio

Mae rhaglen Cymru’n Gweithio yn cael ei chyflwyno gan Gyrfa Cymru ac mae hi’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cymru'n Gweithio yn deall pa mor heriol yw dod o hyd i swydd, ond mae ein cynghorwyr yma i'ch helpu. Beth bynnag sy'n eich rhwystro rhag cael swydd mae'n cynghorwyr yn gwybod bod angen cyngor ac arweiniad sy'n benodol i chi.

Mae sawl rheswm pam bod cael swydd yn heriol. Efallai eich bod:

  • Gyda phroblemau iechyd neu anabledd fydd angen cymorth pellach mewn swydd
  • Wedi bod yn ddi-waith ers tro ac angen help i fagu hyder eto ac i ennill y sgiliau cywir
  • Wedi colli eich swydd a nawr angen ystyried opsiynau eraill a chyfeiriad gwahanol
  • Gyda phryderon ynglŷn â gofal plant cyn gallu dychwelyd yn ôl i'r gwaith
  • Yn ansicr am eich opsiynau a beth rydych eisiau i'w wneud nesaf

Efallai nad ydych yn gwybod ble mae dechrau arni na beth i’w wneud nesaf. Felly, cysylltwch â Cymru’n Gweithio i newid eich stori. (Bydd y ddolen yma yn eich tywys i safle allanol)


Newid dy stori. Chwilio Cymru'n Gweithio

Mae gan bawb ei stori ac efallai dy fod yn teimlo nad oes modd i ti newid dy un di. Ond mae gen ti opsiynau gyda Cymru’n Gweithio.

Gweld dogfen trawsgrifiad Newid dy Stori (Word 13KB, bydd y ddogfen hon yn lawr lwytho i'ch dyfais neu'n agor mewn porwr)