Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Ein gwobrau

Gweld rhai o'r gwobrau mae Gyrfa Cymru wedi'u hennill.

Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig.

Cyflogwr anabledd hyderus

Mae'n bleser gennym gadarnhau bod CCDG wedi cael ei gwobrwyo â'r wobr Cyflogwr Anabledd Hyderus (dolen Saesneg yn unig) ar gyfer y pump ymrwymiad canlynol;

  1. Cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer swydd a'u hystyried yn ôl eu galluoedd
  2. Sicrhau bod mecanwaith i drafod gyda chyflogeion anabl, ar unrhyw adeg, ond o leiaf unwaith y flwyddyn, yr hyn y gellid ei wneud i sicrhau bod modd iddynt ddatblygu a defnyddio eu galluoedd
  3. Gwneud pob ymdrech pan fo cyflogeion yn dod yn anabl i sicrhau eu bod yn aros mewn cyflogaeth 
  4. Gweithredu i sicrhau bod cyflogeion i gyd yn datblygu lefel briodol o ymwybyddiaeth am anabledd sydd ei hangen i wneud yr ymrwymiadau hyn i'r gwaith
  5. Adolygu'r pump ymrwymiad bob blwyddyn a'r hyn a gyflawnwyd, er mwyn cynllunio ffyrdd i ragori arnynt a rhoi gwybod i gyflogeion a'r Ganolfan Byd Gwaith am gynnydd a chynlluniau i'r dyfodol

Cyflogwr cyflog byw

Mae'n bleser gan Gyrfa Cymru i gyhoeddi ein bod wedi ein hachredu fel cyflogwr Cyflog Byw. Mae'r Cyflog Byw go iawn yn gyfradd fesul awr a osodir yn annibynnol ac a ddiweddarir yn flynyddol. Cyfrifir y Cyflog Byw yn unol â gwir gostau byw.

Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr, Sefydliad Cyflog Byw, “Rydym yn croesawu Gyrfa Cymru i'r mudiad Cyflog Byw fel cyflogwr achrededig."

Dywedodd Denise Currell, Pennaeth Datblygu Pobl Gyrfa Cymru Dewis Gyrfa (CCDG):

Rwy'n falch bod Gyrfa Cymru bellach yn Gyflogwr Cyflog Byw. Mae ein staff, o'n Cynghorwyr Gyrfa mewn ysgolion ledled Cymru i'n gweithwyr yn ein prif swyddfa, wrth wraidd yr hyn a wnawn. Fel eiriolwyr cyflogaeth deg, mae dod yn gyflogwr Cyflog Byw yn gam naturiol yn y cyfeiriad cywir i ni a bydd yn ein helpu i wella cymhelliant staff yn ogystal â chadw a denu gweithlu o ansawdd."

Gwobr Lefel 4 y Ddraig Werdd

Mae'r wobr hon yn dangos ein hymrwymiad i reolaeth amgylcheddol effeithiol. Dewch i wybod mwy am sut yr ydym yn rheoli ein heffaith amgylcheddol ar ein tudalen Amgylchedd.

Gwobr Arian Safon Iechyd Corfforaethol

Mae'r wobr Arian Safon Iechyd Corfforaethol yn cydnabod sefydliadau sy'n cefnogi lles eu cyflogeion trwy gael polisïau sy'n hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith, iechyd a diogelwch, rhannu gwybodaeth am iechyd a lles, bod yn agored am iechyd meddwl ac annog gweithwyr i wneud newidiadau ffordd iach o fyw. Mae gan bob swyddfa Lysgennad Iechyd a Lles. Rydym yn gweithio tuag at y Wobr Aur.

UNISON Siarter #RespectYourYouth i weithwyr ifanc yng Nghymru

Mae Gyrfa Cymru wedi arwyddo Siarter RespectYourYouth, sydd wedi'i ddatblygu gan yr undeb gwasanaethau cyhoeddus, UNISON Cymru Wales. Mae siarter RespectYourYouth UNISON yn gofyn am bum peth:

  1. gweithredu Cyflog Byw Go Iawn, waeth be fo’r oedran
  2. Prentisiaethau o ansawdd
  3. Cyflogaeth deg
  4. Cydraddoldeb yn y gweithle
  5. Mwy o gyfleoedd hyfforddiant

Dewch i wybod mwy am Young Workers Charter.(dolen Saesneg yn unig)

Addewid 'Employer Time to Change'

Mae Gyrfa Cymru wedi llofnodi'r addewid 'Employer Time to Change' i ddangos ein hymrwymiad i newid y ffordd yr ydym i gyd yn meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl yn y gweithle.

Bay Citizens 'Community Jobs Compact'

Mae Gyrfa Cymru wedi llofnodi'r 'Community Jobs Compact' sy'n golygu y byddwn yn:

  • Talu Cyflog Byw
  • Mynd i'r afael â thangynrychiolaeth yng ngweithle y gymuned leol
  • Darparu diogelwch a datblygiad swydd

Ewch i wefan Citizens Cymru Wales i ddarganfod mwy.