Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Academi Sgiliau i Lwyddo

Dyn yn neidio ac yn pwyntio tuag at deitl yn dweud Skills to Succeed Academy

Ydych chi angen help i wneud penderfyniadau gyrfa? Ydych chi eisiau meithrin y sgiliau ar gyfer dod o hyd i swydd ac aros ynddi? Ydych chi angen help gydag ymchwilio, ymgeisio a pharatoi ar gyfer cyfweliad?  Gall Academi Sgiliau i Lwyddo eich helpu i ateb y cwestiynau hyn i gyd, a mwy!


Rhaglen hyfforddi cyflogadwyedd ar-lein, rhyngweithiol yw Academi Sgiliau i Lwyddo, ac mae’n rhad ac am ddim. Mae’n canolbwyntio ar feithrin y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i ddewis yr yrfa gywir, i ddod o hyd i swydd ac i lwyddo yn y gweithle.

Mae’r hyfforddiant yn ddiddorol, yn realistig ac yn cynnwys cymeriadau y gellir uniaethu â nhw. Mae’n defnyddio dulliau arloesol fel efelychiadau sy’n rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar sefyllfaoedd go iawn, e.e. cyfweliad am swydd. 

Noder: Saesneg yn unig yw'r offeryn hyfforddiant.


Mae 36 modiwl byr i ddewis o’u plith, wedi’u rhannu dros dri chwrs:

  1. Chi a’ch Gyrfa: 6 modiwl sy’n archwilio beth mae gyrfa’n ei olygu a sut i wneud y dewisiadau gyrfa gorau i chi
  2. Cael Swydd: 20 modiwl sy’n eich helpu i feithrin sgiliau cyflogadwyedd craidd ac yn eich arwain drwy’r holl gamau sydd eu hangen i sicrhau swydd
  3. Llwyddo yn y Gwaith: 10 modiwl sy’n eich helpu drwy’r camau i gynnal swydd, llwyddo yn y gweithle a datblygu yn eich gyrfa.

Mae hefyd cyn-asesiad ar-lein, syml sy’n cynhyrchu cwricwlwm dysgu personol o’r 36 modiwl, yn seiliedig ar eich anghenion.

Mae cofrestru ar Academi Sgiliau i Lwyddo yn hawdd. Dilynwch y camau isod i ddechrau arni:

1.    Ewch i www.s2sacademy.com
2.    Cliciwch ar ‘Learner Registration’
3.    Defnyddiwch eich cod mynediad penodol i leoliad o’r tabl isod

Codau mynediad Sgiliau i Lwyddo:
LLEOLIAD COD MYNEDIAD
Gogledd Cymru CW1WN3
De-ddwyrain Cymru CW1WE3
Canol De Cymru  CW1WC3
Gorllewin Cymru CW1WW3
Academi Sgiliau i Lwyddo

Bydd yr hyfforddiant rhyngweithiol, ar-lein hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn eich helpu i feithrin y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i ddewis yr yrfa gywir, dod o hyd i swydd a llwyddo yn y gweithle.