Skip to main content
BETA

Ymhen amser y safle BETA fydd ein safle byw newydd. Am BETA.

Welsh Government
EnglishCymraeg

Cyflogau, hawliau ac oriau gwaith

Y pethau y mae angen i chi eu gwybod am gyflogau, hawliau ac oriau gwaith.

Edrychwch ar y cwestiynau cyffredin.

Faint o oed y mae angen i mi fod i weithio'n llawn amser?

Gallwch ddechrau gweithio’n llawn amser hyd at 40 awr yr wythnos pan fyddwch wedi cyrraedd yr oedran ieuengaf ar gyfer gadael yr ysgol.

Yng Nghymru, mae’r oedran ieuengaf ar gyfer gadael yr ysgol yn cael ei gyfrifo fel hyn:

  • Gallwch adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin, ond dim ond os byddwch yn 16 oed erbyn diwedd gwyliau haf y flwyddyn ysgol honno. (gov.uk)

Dewch i wybod mwy am gyflogaeth plant a'r oedran gadael ysgol swyddogol ar Gov.uk. (dolenni Saesneg)

A allaf weithio’n rhan amser tra byddaf yn yr ysgol?
  • Gallwch weithio’n rhan amser o 13 oed ymlaen

Yr unig eithriad i hyn yw plant sy’n gweithio yn y byd teledu, theatr neu fodelu. Rhaid i unrhyw un o dan 13 oed sy’n gweithio yn y tri maes hyn gael trwydded perfformio. 

Dewch i wybod mwy am gyflogaeth plant a gweithio fel plentyn sy'n perfformio at Gov.uk. (dolenni Saesneg)

Beth yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol?

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol/ Cyflog Byw Cenedlaethol yw’r gyfradd isaf fesul awr y byddech yn ei chael yn dibynnu ar eich oedran.

Os ydych dros 25 oed, byddwch yn cael y Cyflog Byw Cenedlaethol o leiaf. Os ydych o dan 25 oed, ond dros oedran gadael yr ysgol, byddwch yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Rhaid i chi fod o leiaf o oedran gadael yr ysgol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae’r cyfraddau’n newid bob mis Ebrill. Y cyfraddau presennol yw:

Blwyddyn 25 a throsodd 21 i 24 18 i 20 O dan 18  Prentis
Ebrill 2018 (cyfradd presennol) £7.83 £7.38 £5.90 £4.20 £3.70
Ebrill 2019 £8.21 £7.70 £6.15 £4.35 £3.90

Edrychwch ar gyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar Gov.uk am fwy o wybodaeth.

Sut mae cael Rhif Yswiriant Gwladol?

Rwy'n byw yn y DU

Os ydych yn byw yn y DU, dylai Rhif Yswiriant Gwladol gael ei anfon atoch yn awtomatig cyn eich pen-blwydd yn 16 oed. Os nad ydych yn ei dderbyn, a’ch bod o dan 20 oed, ffoniwch y rhif cymorth. Cewch ddefnyddio'r rhif yma hefyd os ydych wedi colli eich rhig Yswiriant Gwladol. 

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am-8pm
Dydd Sadwrn                      8am-4pm

Ffôn:                    0300 200 3500
Ffôn testun:         0300 200 3519


Rwyf dros 20 oed a does gen i ddim Rhif Yswiriant Gwladol 

Os ydych dros 20 oed ac nad oes gennych Rif Yswiriant Gwladol, gallwch wneud cais drwy ffonio’r llinell gais Rhif Yswiriant Gwladol. 

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:30yb hyd 5yp

Ffôn llinell  Cymraeg:    0800 141 2349

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am to 6pm

Ffôn:                     0800 1412075
Ffôn testun:          0800 141 2438


Faint o amser mae'n ei gymryd i gael Rhif Yswiriant Gwladol?

Pan fyddwch yn ffonio rhif y llinell gymorth, ni fydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn rhoi eich Rhif Yswiriant Gwladol i chi dros y ffôn. Caiff ei bostio atoch. Mae hyn yn cymryd 15 diwrnod gwaith fel arfer. .

Dewch i wybod mwy am Rhif Yswiriant Gwladol. ar Gov.uk (dolen Saesneg)

Lle y gallaf gael mwy o wybodaeth am fy hawliau cyflogaeth?

Dylid cysylltu gyda ACAS (Advisory, Conciliation and Arbitration Service) i drafod eich hawliau cyflogaeth neu unrhyw broblem cyflogaeth yn eich gweithle. (dolen Saesneg)

Ffôn:            0300 123 1100
Ffôn testun: 180010300 1231100

Gweld y ffyrdd eraill o gysylltu ag ACAS. (dolen Saesneg)

 

Lle y gallaf ganfod gwybodaeth am ddatgelu cofnodion troseddol i gyflogwyr?
Beth yw fy hawliau os ydw i’n weithiwr asiantaeth dros dro?

Bydd gennych hawliau cyflogaeth gweithiwr ar Gov.uk (dolen Saesneg) o’r diwrnod y byddwch yn dechrau gweithio.

Ar ôl 12 wythnos yn eich swydd, byddwch yn gymwys i gael yr un hawliau â’r bobl sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y cwmni.

Darllen mwy am eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth ar Gov.uk (dolen Saesneg)


Cysylltu â ni

Os ydych yn dal yn ansicr ac eisiau siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth