Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swyddi

Sut alla i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i swyddi yn fy ardal i?

Mae llawer o gyflogwyr yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu eu swyddi gwag. Bydd y sianeli y mae cyflogwyr yn eu defnyddio yn dibynnu ar eu busnes. Ni fydd pob swydd ar bob sianel.

Dod o hyd i swyddi ar Facebook

Awgrymiadau ar ddod o hyd i swyddi a chysylltu â chyflogwyr a sefydliadau.

Ar Facebook gallwch gysylltu â phobl, grwpiau a sefydliadau eraill.

Mae pobl yn aml yn defnyddio Facebook i rannu gwybodaeth gyda theulu a ffrindiau. Gall defnyddwyr bostio sylwadau, rhannu lluniau, fideos a dolenni i swyddi eraill.

Dewch o hyd i swyddi ar Facebook drwy:

  • Chwilio am dudalennau Facebook cymunedol lleol neu grwpiau Facebook. Ymunwch â'r grŵp neu dilynwch y dudalen. Gallech bostio i holi a yw pobl yn gwybod am unrhyw gyflogwyr sy'n recriwtio neu am unrhyw swyddi yn yr ardal. Mae'n helpu i roi syniad o'r math o swydd yr ydych yn chwilio amdani
  • Chwilio am dudalen Facebook cyflogwr lleol. Edrychwch drwy eu swyddi i weld a oes unrhyw swyddi gwag. Os hoffech weithio iddyn nhw, yna ‘hoffwch’ y dudalen. Yn y ‘gosodiadau dilyn’ ar gyfer y dudalen honno gallwch ddewis sut rydych chi’n gweld postiadau yn eich ffrwd. Gwnewch ddewisiadau am yr hysbysiadau a gewch ar gyfer eu swyddi
  • Dilynwch dudalennau unrhyw asiantaethau recriwtio lleol sy'n postio'r mathau o swyddi sydd o ddiddordeb i chi
  • Gallwch bostio ar eich llinell amser chi i roi gwybod i'ch ffrindiau, eich teulu a'ch cysylltiadau eich bod yn chwilio am waith. Efallai eu bod nhw’n gwybod am swyddi a gallant rannu hyn gyda chi
  • Chwiliwch am 'Swyddi yng Nghymru' i weld a oes rhywbeth ar gael yn eich ardal leol
Show more

Dod o hyd i swyddi ar LinkedIn

Dysgwch sut i chwilio am swyddi, gwneud cysylltiadau busnes a rhannu eich proffil proffesiynol.

Sianel rwydweithio broffesiynol yw LinkedIn.

Crëwch eich proffil LinkedIn fel CV ar-lein. Defnyddiwch ef i amlygu eich sgiliau a'ch profiad a'i gadw'n gyfredol.

Mae penawdau LinkedIn yn awgrymu gwybodaeth i'w chynnwys. Ewch i Adeiladu CV os oes angen syniadau arnoch. Cymerwch y Cwis Buzz i'ch helpu i nodi eich cryfderau ar gyfer eich proffil LinkedIn.

Mae eich tudalen gartref yn dangos postiadau o'ch cysylltiadau a’r cwmnïau rydych chi'n eu dilyn. Gallai'r rhain gynnwys swyddi gwag ond mae gan LinkedIn adran swyddi lle gallwch chwilio am swyddi.

Mae eich pennawd yn ymddangos o dan eich llun proffil. Defnyddiwch e i greu datganiad clir amdanoch chi'ch hun gan y bydd pobl yn gweld hyn pan fyddant yn chwilio.

Gallwch roi gwybod i bobl eich bod yn chwilio am waith trwy ddewis ‘agored i ddod o hyd i swydd newydd’ yn eich proffil.

Adeiladwch eich rhwydwaith LinkedIn a'r hyn a welwch ar eich tudalen gartref drwy wneud cysylltiadau. Gwnewch hyn drwy:

  • Ymuno â grwpiau cyn-fyfyrwyr ysgol, coleg neu brifysgol
  • Cysylltu â chydweithwyr presennol a blaenorol
  • Ymchwilio i gwmnïau y mae gennych ddiddordeb ynddynt a'u dilyn
  • Chwilio am ac ymuno â grwpiau sy'n ymdrin â phynciau o ddiddordeb
Show more

Dod o hyd i swyddi ar Twitter

Chwiliwch am ffyrdd o ddod o hyd i swyddi a pha hashnodau fydd yn eich helpu i ddod o hyd i swyddi yn eich ardal.

Gallwch ddefnyddio Twitter i bostio, hoffi ac ateb negeseuon byr o'r enw trydariadau. Hyd at 280 nod o hyd yw trydariadau. Gallant gynnwys lluniau, fideos, dolenni a thestun.

Dewch o hyd i swyddi ar Twitter drwy:

  • Ddilyn cyflogwyr, safleoedd swyddi neu recriwtwyr sydd o ddiddordeb i chi
  • Creu neu danysgrifio i 'restr twitter' gan ddilyn cyfrifon sy'n rhannu cynnwys am bwnc neu ddiwydiant penodol
  • Cadw golwg am gyfrifon ar wahân y gallai sefydliadau mwy eu defnyddio i rannu eu swyddi gwag
  • Dilyn eich cyfrif Canolfan Byd Gwaith lleol
  • Chwilio am hashnodau a ddefnyddir i grynhoi swyddi gwag lleol

Mae’r cynnwys ar Twitter yn symud yn gyflym iawn. Gwnewch y gorau o Twitter trwy drydar yn rheolaidd. Defnyddiwch y 160 nod yn eich bio Twitter i roi crynodeb ohonoch chi a'ch diddordebau.

Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith gyfrifon sy'n trydar swyddi gwag a gwybodaeth chwilio am swydd ddefnyddiol ar gyfer holl ranbarthau Cymru. Dilynwch y cyfrifon yn eich ardal a chwiliwch am yr hashnodau i ddod o hyd i drydariadau am swyddi. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn postio trydariadau ar yr un amser bob wythnos, ond gallwch chwilio amdanynt a dod o hyd iddynt ar unrhyw adeg.

Tabl o gyfrifon Twitter y Ganolfan Byd Gwaith a hashnodau rhanbarthol defnyddiol
Awdurdod LleolCyfrif Twitter JCPHashnod Awr Adolygu Dydd Gwener 11am i 12pm (yn Saesneg)Hashnod sbotolau lleol a'r diwrnod ac amser y mae’r trydariadau yn cael eu postio (yn Saesneg)
Abertawe@JCPinSwanseaBay#SBayReview#SpotlightSwansea
Monday 11am
Blaenau Gwent@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#BlaenauGwentJobs
#SpotlightBG
Tuesday 2pm
Bro Morgannwyg
@JCPinSEWales
#TheSEWalesReview
#ValeJobs
#SpotlightCardiffVOG
Thursday 2pm
Caerdydd@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#CardiffJobs
#SpotlightCardiffVOG
Thursday 2pm
Caerffili@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#CaerphillyJobs
#SpotlightCaerphilly
Tuesday 11am
Casnewydd@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#NewportJobs
#SpotlightNewport
Thursday 11am
Castell-nedd Port Talbot@JCPinSwanseaBay#SBayReview#SpotlightNeath
Tuesday 11am
#SpotlightPT
Wednesday 11am
Ceredigion@JCPinWestWales#TheWestWalesReview#SpotlightCeredigion
Thursday 11am
Conwy@JCPinNWWales#TheNWWalesReview#SpotlightConwy
Wednesday 2pm
Gwynedd@JCPinNWWales#TheNWWalesReview#SpotlightGwynedd
Tuesday 2pm
Merthyr Tudful@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#MerthyrTydfilJobs
#SpotlightMerthyr
Monday 2pm
Pen-y-bont ar Ogwr@JCPinSwanseaBay#SBayReview#SpotlightBridgend
Thursday 11am
Powys@JCPinNEMidWales#NEMidWalesReview#SpotlightPowys
Thursday 2pm
Rhondda Cynon Taf@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#RCTJobs
#SpotlightRCT
Monday 11am
Sir Ddinbych@JCPinNEMidWales#NEMidWalesReview#SpotlightDenbighshire
Tuesday 2pm
Sir Fynwy@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#MonmouthshireJobs
#SpotlightMonmouthshire
Wednesday 2pm
Sir Gaerfyrddin@JCPinWestWales#TheWestWalesReview#SpotlightCarms
Wednesday 11am
Sir Penfro@JCPinWestWales#TheWestWalesReview#SpotlightPembs
Tuesday 11am
Sir y Fflint@JCPinNEMidWales#NEMidWalesReview#SpotlightFlintshire
Wednesday 2pm
Torfaen@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#TorfaenJobs
#SpotlightTorfaen
Wednesday 11am
Wrecsam@JCPinNEMidWales#NEMidWalesReview#SpotlightWrexham
Monday 2pm
Ynys Mon@JCPinNWWales#TheNWWalesReview#SpotlightAnglesey
Monday 11am

Mae @JCPyngNghymru yn gyfrif Twitter Y Ganolfan Byd Gwaith sy'n trydar yn y Gymraeg ar gyfer pob rhanbarth.

Mae adeiladu eich rhwydwaith eich hun ar Twitter yn cymryd amser ac ymdrech. Mae pobl yn rhannu meddyliau a chynnwys diddorol am wahanol ddiwydiannau. Dechreuwch drwy ddod o hyd iddyn nhw a'u dilyn.

Cymerwch ran mewn sgyrsiau drwy:

  • Hoffi trydariadau diddorol a thrydar ateb
  • Aildrydar cynnwys diddorol gan sefydliadau a sôn am gyfrifon eraill gan ddefnyddio eu henw proffil @
  • Dilyn ac ymgysylltu â ffrindiau a phobl rydych chi wedi gweithio gyda nhw
  • Cymryd rhan mewn sgyrsiau Twitter. Mae'r rhain yn digwydd yn rheolaidd ac yn defnyddio hashnod penodol. Dewch o hyd i rai sy'n rhoi sylw i swyddi neu bynciau sydd o ddiddordeb i chi
Show more

Awgrymiadau ar gyfer defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol

Er bod pob sianel cyfryngau cymdeithasol yn wahanol, mae rhai awgrymiadau yn ddefnyddiol iddyn nhw i gyd.

Sut i wneud y gorau o'ch proffil cyfryngau cymdeithasol

Os nad oes gennych chi broffil, mae yna gyfyngiad ar yr hyn y gallwch chi ei weld a'i wneud ar y sianel cyfryngau cymdeithasol honno. Penderfynwch a fyddai'n werth creu un.

Meddyliwch am y lluniau a'r sylwadau rydych chi'n eu creu, eu rhannu neu eu haildrydar.

Dewiswch lun proffil a llun clawr sy'n adlewyrchu pwy ydych chi ac sy’n creu argraff dda.

Osgowch unrhyw beth na fyddech am i gyflogwr yn y dyfodol ei weld. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i greu darlun o ddarpar weithwyr. Gallant benderfynu peidio â chynnig swydd i rywun os ydynt yn gweld rhywbeth ar broffil y person hwnnw nad ydynt yn cytuno ag ef.

Gall eich proffil weithio o'ch plaid. Gallwch ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i arddangos eich diddordebau a'ch doniau. Gall ddangos i gyflogwyr y byddech yn addas iawn ar gyfer eu busnes.

Gwiriwch yr opsiynau sydd gennych ar gyfer gosodiadau preifatrwydd. Penderfynwch beth fyddai orau i chi yn dibynnu ar sut y byddwch chi'n defnyddio'r sianel honno. Ai dim ond ar gyfer rhannu pethau gyda theulu a ffrindiau? Neu rywbeth y gall unrhyw un ei weld?

Cadwch eich cyfrifon yn weithredol gyda’r negeseuon, trydariadau neu’r sylwadau diweddaraf. Ysgrifennwch a rhannwch bethau diddorol. Defnyddiwch y sianeli sy'n gweithio i chi yn unig. Gall gymryd amser i'w diweddaru i gyd.

Dod o hyd i bobl a chysylltu â nhw i gael gwybod am swyddi

Chwiliwch am dudalennau neu broffiliau cwmnïau ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol rydych chi'n eu defnyddio. Gall hyn fod yn ffordd wych o ddarganfod mwy am gyflogwr a gweld swyddi gwag.

Dangoswch eich diddordeb mewn cyflogwr trwy ddilyn ac ymgysylltu â'u cyfrif neu dudalen. Bydd hoffi neu roi sylwadau ar eu postiadau hefyd yn golygu y byddwch yn fwy tebygol o weld postiadau ganddynt.

Gwnewch sylwadau cwrtais a phriodol. Ceisiwch ychwanegu gwerth at yr hyn sy'n cael ei rannu.

Gwiriwch dudalennau cymunedol a grwpiau diddordeb am bostiadau diweddar. Dilynwch neu ymunwch ag unrhyw rai sy'n ddiddorol neu'n ddefnyddiol yn eich barn chi.

Defnyddiwch hashnodau i ddod o hyd i swyddi yn eich ardal

Chwiliwch am hashnodau (gair neu symbol gyda # o'i flaen) i ddod o hyd i bostiadau sydd o ddiddordeb i chi.

Cadwch lygad am hashnodau a ddefnyddir ar gyfer digwyddiadau, eich ardal leol, neu sector yr hoffech weithio ynddo.

Ceisiwch ddefnyddio mwy nag un hashnod wrth i chi chwilio. Rhowch gynnig ar hashnodau sy'n cyfyngu ar yr hyn yr ydych yn chwilio amdano. Er enghraifft, #swyddi #gogleddcymru #swyddiTG. Mae’n bosibl mai dim ond hashnodau Saesneg y mae cyflogwyr yn eu defnyddio, felly mae'n werth chwilio amdanynt yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ni fydd pob postiad yn defnyddio hashnodau, felly defnyddiwch ffyrdd eraill o ddod o hyd i swyddi hefyd.

Archwilio

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Swyddi Dyfodol Cymru

Archwiliwch ranbarthau a diwydiannau Cymru. Dysgwch pa swyddi y gallech eu gwneud, nawr ac yn y dyfodol.