Ydych chi erioed wedi clywed “dim ots beth wyt ti'n ei wybod, pwy ti'n ei adnabod sy’n bwysig”? Mae'n gallu bod yn arbennig o wir wrth chwilio am waith.
Dewch i wybod sut i ddefnyddio'ch cysylltiadau i gael y swydd
Beth yw'r 'farchnad swyddi gudd'?
Mae cryn dipyn o swyddi nad ydyn nhw’n cael eu hysbysebu. Maen nhw’n cael eu llenwi gan bobl y mae'r cyflogwr yn eu hadnabod
Mae hyn yn golygu na wnewch chi fyth ddod o hyd i'r swyddi gwag hyn ar-lein neu mewn papur newydd.
Mae cwmnïau yn recriwtio fel hyn oherwydd:
- Mae'n rhatach - does dim rhaid talu i hysbysebu'r swydd ar hysbysfyrddau swyddi
- Mae'n haws – does dim rhaid iddyn nhw dreulio llawer o amser yn pori drwy lwyth o CVs
- Mae'n effeithiol – maen nhw'n adnabod ac yn ymddiried yn y person felly mae'n llai o risg iddyn nhw
Felly, holwch eich cysylltiadau i weld a ydyn nhw wedi clywed am unrhyw swyddi. Term arall am hyn yw rhwydweithio.
Meddyliwch am eich rhwydwaith fel y bobl yr ydych yn eu hadnabod, y bobl ar eich rhestr cysylltiadau. Mae'r rhain yn cynnwys ffrindiau, teulu, athrawon a thiwtoriaid, cyflogwyr a chydweithwyr, ac efallai cynghorydd gyrfa. Maen nhw i gyd yn adnabod pobl hefyd sydd efallai yn chwilio am gyflogai newydd.
Sut ydw i'n gwneud cyswllt newydd?
Mae modd rhwydweithio ar-lein neu oddi-ar-lein. Yma rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar rwydweithio oddi-ar-lein ond mae gwneud y gorau o'ch cysylltiadau rhwydweithio ar-lein yn hollbwysig. Darllenwch ein canllaw ar sut i reoli eich rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein.
Dyma rai awgrymiadau rhwydweithio i'ch rhoi ar y trywydd iawn:
- Lluniwch restr o'ch cysylltiadau - meddyliwch am yr holl bobl yr ydych yn eu hadnabod - cyn athrawon, cyflogwyr, teulu, ffrindiau ac yn y blaen a dywedwch wrthyn nhw eich bod yn chwilio am waith. Efallai y gallant eich helpu neu eu bod yn gwybod am rywun sy'n gallu eich helpu. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod am beth rydych chi’n chwilio amdano
- Ceisiwch gael rhywun i’ch cyflwyno – os oes rhywun yn gwybod am rywun sy'n gallu eich helpu, gofynnwch iddyn nhw eu cyflwyno i chi
- Dod o hyd i ddigwyddiadau – edrychwch am ddigwyddiadau rhwydweithio, cynadleddau diwydiant, ffeiriau swyddi, sgyrsiau a gweithdai. Cyflwynwch eich hunan i gymaint o bobl â phosibl a gofynnwch a allwch gadw mewn cysylltiad
- Cymdeithaswch – chwiliwch am rwydweithiau busnes ar safleoedd fel LinkedIn a Facebook ac ymuno â nhw. Darllenwch ein cyngor ar sut i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i waith
- Dechreuwch sgwrs – rydych yn cwrdd â phobl newydd bob dydd - does wybod lle wnaiff y sgwrs arwain
- Paratowch eich atebion – meddyliwch beth fyddech chi’n ei ddweud pe bai rhywun yn gofyn i chi "dwedwch wrthyf amdanoch chi eich hun”. Darllenwch fwy am hyn ar ein tudalen technegau cyfweld
- Ceisiwch swnio'n bositif – dywedwch wrth bobl am eich sgiliau, eich cryfderau a'ch uchelgeisiau. A siaradwch gydag arddeliad
- Byddwch yn bositif – ni fydd pob cyswllt yn arwain at swydd, y cyfan sydd ei angen yw un cyswllt llwyddiannus
- Chwiliwch am gyfleoedd i fagu profiad – gwirfoddolwch neu ceisiwch ddod o hyd i brofiad gwaith. Byddwch yn gwneud cysylltiadau newydd a sicrhau eich "bod yn y lle iawn ar yr amser iawn"
Mae rhai pobl yn trefnu i gwrdd â chyswllt er mwyn cyflwyno eu hunain ac i ddarganfod mwy am gwmni neu ddiwydiant arbennig. Yr enw ar hyn yw cyfweliad cywain gwybodaeth.
Efallai i chi hefyd hoffi

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Cewch wybod sut mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swydd, a gwneud eich presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yn broffesiynol.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Darganfyddwch 10 ffordd wych o ddod o hyd i gwmni i weithio iddo.