Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Beth yw Prentisiaeth?

Swyddi yw prentisiaethau yng Nghymru sy'n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy'n benodol i swydd. Rydych yn cael cyflog tra'n gweithio a dysgu.

Ynglŷn â Phrentisiaethau

Cael atebion i gwestiynau cyffredin i'ch helpu chi i benderfynu a yw prentisiaeth yn iawn i chi.

Beth yw'r Lefelau Prentisiaethau?

Mae pedair lefel Prentisiaeth:

  • Prentisiaeth Sylfaen - byddech fel arfer yn ennill cymhwyster Lefel 2 (sy'n cyfateb i A*-C TGAU) sy'n berthnasol i'r swydd
  • Prentisiaeth - byddech yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch) sy'n berthnasol i'r swydd
  • Prentisiaeth Uwch - byddech yn  gweithio tuag at gymhwyster uwch Lefel 4 a thu hwnt. Gallai hyn fod yn HNC/HND neu Radd Sylfaen
  • Prentisiaeth Gradd - mae'r rhain yn cynnig addysg ar Lefel 6 ac yn rhoi cyfle i chi ennill gradd baglor lawn. Maent yn cyfuno gweithio ag astudio’n rhan-amser mewn prifysgol neu goleg
Lefelau Prentisiaeth
Lefel PrentisiaethLefel Addysg Gyfatebol
Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 25 TGAU / NVQ Lefel 2
Prentisiaeth - Lefel 32 Safon Uwch / NVQ Lefel 3
Prentisiaeth Uwch - Lefel 4/5HNC / HND / Gradd Sylfaen
Prentisiaeth Gradd - Lefel 6Gradd Baglor

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am brentisiaethau ar wefan Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Prentisiaethau. Dewis Doeth.

Ble byddwn ni'n hyfforddi?

Bydd hyn yn dibynnu ar beth rydych yn ei wneud. Bydd eich cyflogwr yn penderfynu sut maen nhw am eich hyfforddi i wneud eu gwaith. Dyma rai o'r ffyrdd mae prentisiaid yn cael eu hyfforddi:

  • Yn y swydd
  • Yn y coleg a allai fod yn amser llawn neu'n rhan-amser
  • Mewn canolfan hyfforddi lle byddwch yn mynd unwaith yr wythnos neu mewn blociau o ddyddiau neu wythnosau
  • Mewn prifysgol os ydych yn gwneud lefel uwch neu Brentisiaeth gradd

Byddwch yn sicr yn cael hyfforddiant. Eich cyflogwr newydd fydd yn penderfynu sut a pha mor aml, pryd a ble.

Rhoddir y wybodaeth hon i chi pan ewch drwy'r cais neu dylech ofyn am fanylion yn eich cyfweliad.

Pa fath o brentisiaethau sy'n cael eu hysbysebu?

Mae ystod eang o Brentisiaethau ar gael, a nifer o gyflogwyr gwahanol yn eu cynnig:

  • Defnyddiwch Chwilio am Brentisiaeth i weld y swyddi gwag sydd ar gael nawr. Gallwch weld yr holl gyfleoedd neu eu hidlo yn ôl math o waith neu ble rydych yn byw
  • Edrychwch ar Gyflogwyr sy'n cynnig Prentisiaethau sy'n cynnwys dolenni yn ôl math o Brentisiaethau. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o'r ystod o Brentisiaeth, a'r cyflogwyr sy'n eu cynnig

Os ydych yn ansicr pa brentisiaeth byddai'n eich siwtio beth am:

Gallwch weld rhestr lawn o'r mathau o brentisiaethau sydd ar gael yn Apprenticeship Certification Wales (dolen Saesneg).

Beth yw gofynion mynediad Prentisiaeth?

Mae prentisiaethau yn agored i unrhyw un dros 16 oed, gan gynnwys pobl ag anableddau, cyflwr iechyd neu anawsterau dysgu. Nid oes uchafswm oedran.

Gellir gwneud bron pob prentisiaeth yn hygyrch a bydd eich cyflogwr yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael cymorth wedi'i deilwra i ddiwallu eich anghenion fel y gallwch weithio'n hyderus. Am fwy o wybodaeth, ewch i Prentisiaethau ar gyfer Pobl Anabl ar wefan Cymru'n Gweithio a Prentisiaethau: canllaw i ddysgwyr anabl ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'n rhaid i chi ymgeisio fel unrhyw swydd arall. Bydd y cyflogwr sy'n hysbysebu'r Prentisiaeth yn nodi'r cymwysterau, sgiliau a phrofiad maent eu hangen.

Mae Prentisiaethau yn ffordd dda o gael gwaith a dysgu o'r dechrau, felly maen nhw'n gystadleuol iawn. Mae'n bwysig eich bod yn creu CV a  chais da iawn.

Faint byddaf yn cael fy nhalu?

Mae isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer prentisiaid (dolen Saesneg), ond yn aml bydd cyflogwyr yn talu mwy na hyn. Eich cyflogwr sy'n penderfynu beth fydd eich cyflog. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar isafswm cyflog cenedlaethol prentisiaid ar gov.uk.

Sut mae dod o hyd i Brentisiaethau?

Chwilio a gwneud cais am brentisiaethau ar Chwilio am Brentisiaeth. Cewch edrych ar y cyfleoedd i gyd neu rai yn eich ardal chi yn unig, neu’r math o swyddi mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw.

Mae Cyflogwyr sy'n cynnig Prentisiaethau yn rhestru dolenni o gyflogwyr sy'n cynnig prentisiaethau. Gallwch hefyd ymweld a'u gwefannau i:

  • Weld a ymgeisio am unrhyw swydd fyw sydd ganddynt
  • Wybod pryd byddent yn recriwtio nesaf os nad oes cyfleoedd byw ganddynt ar hyn o bryd
  • Gofrestru eich diddordeb neu gyflwyno eich CV os oes opsiwn i wneud hyn

Bydd rhai cyflogwyr hefyd yn hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu wefannau swyddi fel Chwilio am Swydd ac Indeed. (dolenni Saesneg yn unig)

I ddod o hyd i brentisiaethau gradd a lefel uwch ewch i:

  • Prentisiaethau Gradd - yn rhestru prifysgolion yng Nghymru sy'n darparu prentisiaethau gradd yn seiliedig ar TG
  • Prentisiaethau Lefel Uwch - yn rhestru cyflogwyr sy'n cynnig prentisiaethau mynediad Safon Uwch (a chyfwerth) mewn amrywiaeth eang o bynciau

Awgrym da! Os oes diddordeb ganddoch mewn prentisiaeth gyda chyflogwr penodol yna pam ddim eu holi i weld beth sydd ganddynt i'w ddweud?

Gallwch ddilyn Llywodraeth Cymru ar Facebook a Twitter ble byddent yn hysbysebu cyfleoedd Prentisiaeth yn rheolaidd.

Cysylltwch â ni ar 0800 028 4844 am gymorth a chyngor.


Chwilio a gwneud cais


Astudiaethau achos

Darllenwch straeon am lwyddiannau bywyd go iawn ar ein gwefan Cymru’n Gweithio.

Gweld mwy o astudiaethau achos prentisiaethau ar Prentisiaethau. Dewis Doeth.


Mwy o wybodaeth

Dysgwch fwy am fuddion prentisiaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael yn Prentisiaethau: canllaw i ddysgwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.


Archwilio

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.