Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Opsiynau i raddedigion

Beth nesaf ar ôl eich gradd. Archwilio eich opsiynau, dod o hyd i gyngor ymarferol a dolenni defnyddiol i'ch cefnogi gyda'ch camau nesaf.

Cyflogaeth

Dod o hyd i swyddi

Gallai safleoedd swyddi i raddedigion fod yn fan cychwyn da ond cofiwch y gellir hysbysebu cyfleoedd i raddedigion mewn mannau eraill hefyd.

Gwefannau swyddi i raddedigion

Gweld ein rhestr o wefannau swyddi i raddedigion. Cael mynediad at gynlluniau recriwtio graddedigion a chyfleoedd profiad gwaith.

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Gofyn i'ch cysylltiadau

Ychwanegwch at eich cysylltiadau a rhwydweithiwch er mwyn clywed am swyddi gwag sydd heb eu hysbysebu.

Gwneud cais am swyddi

Byddwch yn wynebu cystadleuaeth pan fyddwch yn gwneud cais am unrhyw swydd   mae'n bwysig gwybod beth yw’ch sgiliau a'ch cryfderau a'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr.

Bydd cymorth cyflogaeth ar gael i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.

Mae'n bwysig creu CV neu gais effeithiol. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi'n dda ar gyfer cyfweliadau.

Dod o hyd i awgrymiadau ar gyfer:


Hunangyflogaeth

Efallai bod syniad gwych gennych chi neu efallai eich bod chi’n hoffi’r hyblygrwydd y gall hunangyflogaeth ei gynnig.

Dysgwch fwy am hunangyflogaeth:


Astudiaeth ôl-raddedig

Efallai y byddwch yn ystyried gradd Meistr, PhD, diploma ôl-raddedig, neu cymwysterau proffesiynol. Gallech chi astudio’n llawn amser neu’n rhan amser drwy astudio a gweithio ar yr un pryd.

Chwilio am gyrsiau ôl-raddedig drwy ddefnyddio UCAS (Dolen Saesneg yn unig).

Cyn mynd ymlaen i astudiaeth bellach:

  • Dysgwch a fydd astudio ôl-raddedig yn gwella eich rhagolygon gwaith. Defnyddiwch gwybodaeth am swyddi i ddysgu mwy am ofynion mynediad ar gyfer swyddi. Archwiliwch wefannau swyddi i nodi swyddi sy'n gofyn am gymwysterau ôl-raddedig
  • Myfyriwch a oes gennych y cymhelliant i wneud astudiaeth bellach
  • Ystyriwch oblygiadau ariannol gwneud astudiaethau pellach

Cyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig

Archwiliwch yr opsiynau cyllido sydd ar gael ar gyfer ystod o wahanol gyrsiau yng Nghymru. Mae peth cyllid yn benodol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig yn y brifysgol, a gall cyllid arall gefnogi gyda chymwysterau proffesiynol, neu astudiaeth gyffredinol arall.

Cyllid ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig

Dewch o hyd i’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i chi ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig mewn prifysgolion, gan gynnwys cyrsiau meistr a doethuriaeth.

Cyfrifon Dysgu Personol

Bydd Cyfrif Dysgu Personol yn eich galluogi i astudio cyrsiau rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn o gylch eich cyfrifoldebau presennol.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.


Profiad gwaith a bywyd

Gall cymryd blwyddyn allan, gwirfoddoli, neu wneud interniaeth wella eich cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Byddwch yn ennill sgiliau newydd, sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.  Gall y profiadau hyn hefyd eich helpu i ganolbwyntio ar ba yrfaoedd y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Blwyddyn i ffwrdd

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd. 

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 

Interniaethau

Math o brofiad gwaith yw interniaethau i fyfyrwyr yn y brifysgol neu raddedigion. Maen nhw'n ffordd wych o gael profiad sy'n berthnasol i'ch gradd.


Rhowch gynnig ar ein cwisiau

Os nad ydych chi'n siŵr pa yrfaoedd sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch cryfderau, rhowch gynnig ar y Cwis Paru Gyrfa a’r Cwis Buzz.