Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Addysg oedolion a chymunedol

Mae cannoedd o raglenni addysg oedolion a chymunedol ar gael ledled Cymru.

Caiff cyrsiau addysg oedolion a chymunedol eu hanelu fel arfer at bobl:

  • Nad ydyn nhw wedi astudio ers peth amser
  • Sydd am gael cymhwyster neu sgil newydd
  • Sydd am ddychwelyd i ddysgu ar ôl cael seibiant

Mae’r cyrsiau’n aml yn cael eu cynnal mewn canolfannau cymunedol neu golegau lleol. Efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n cynnal cyrsiau dydd tra bod eraill yn cynnig dosbarthiadau nos.

Gwybod mwy am addysg oedolion a chymunedol

Manteision

Byddwch yn:

  • Cwrdd â phobl newydd
  • Magu hyder
  • Gwella sgiliau
  • Gwella rhagolygon swyddi
Cyrsiau y gallwch eu hastudio

Mae llawer o gyrsiau gwahanol i ddewis ohonynt, gan gynnwys:

  • Ieithoedd - Cymraeg, Ffrangeg, ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill)
  • Sgiliau digidol – Golygu Delwedd, defnyddio taenlenni, Prosesu Geiriau
  • Pynciau ymarferol - Tecstiliau, coginio, garddio
  • Gwella sgiliau darllen, ysgrifennu a mathemateg
  • Cysylltiedig â gwaith – iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf, hylendid bwyd

Dim ond ychydig o syniadau yw'r rhain. Mae yna lawer mwy o opsiynau ar gael.

Math o gymwysterau

Yn aml ceir cyrsiau ar lefel sylfaenol iawn, felly gallwch ddechrau fel dysgwr a gweithio tuag at gwrs fwy heriol ar lefel ganolig neu uwch. Gall canolfannau gynnig cyrsiau ffurfiol hefyd megis cyrsiau TGAU.

Gall y ganolfan a thiwtor y cwrs roi gwybodaeth bellach i chi.

Sut i ddod o hyd i gwrs

Mae sawl ffordd y gallwch chwilio am gwrs:

  • Defnyddiwch ein Chwilio am Gwrs i ddod o hyd i gyrsiau oedolion a chymunedol ledled Cymru
  • Cysylltwch â'ch coleg addysg bellach lleol neu ewch i'w gwefan. Fel arfer bydd gan eich coleg lleol adran 'addysg a'r gymuned'
  • Chwilio am gwrs yn eich ardal - darganfyddwr cwrs Addysg Oedolion Cymru
  • Edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol am rest o gyrsiau cymunedol yn eich ardal

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 

Profiad gwaith

Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.