Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Diogelu dy ddyfodol yn y coleg a'r chweched dosbarth

Person yn eistedd efo brwsh paent mewn awyrgylch celf. Geiriau Diogelu dy Ddyfodol: Gadewch i ni droi dy uchelgais gyrfa yn realiti

Mae mynd i’r coleg a'r chweched dosbarth yn gam newydd, cyffrous yn dy fywyd. Bydd tipyn o bethau ar dy feddwl, ond mae gennym rai awgrymiadau i ti er mwyn gwneud y gorau o'th amser yno.

Os wyt ti eisiau gwneud yn dda, mae’n bwysig dy fod yn cyrraedd dy wersi yn brydlon, yn cwblhau dy aseiniadau, ac yn adolygu. Ond mae pethau eraill y gallet ti eu gwneud i wneud y gorau o’th amser yn y coleg a'r chweched dosbarth pethau a fydd yn dy helpu yn y dyfodol.

Awgrymiadau da i wneud y gorau o'r coleg a'r chweched dosbarth

Bydd yn chwilfrydig

Dysga fwy am yr hyn rwyt ti’n ei astudio trwy:

  • Chwilio am wybodaeth sy'n gysylltiedig â dy bwnc. Darllena erthyglau a straeon newyddion
  • Dilyn sefydliadau neu bobl ddiddorol sy’n gysylltiedig â’r pwnc ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Rhannu a thrafod yr hyn rwyt yn ei ddarganfod gyda dysgwyr eraill

Bydd dod i wybod am y newyddion neu ddatblygiadau diweddaraf yn dy helpu i wybod beth sy'n digwydd ac yn dy helpu i ddod o hyd i, a gwneud cysylltiadau ag eraill sydd â diddordeb yn y pwnc. Bydd yn dy ddysgu sut i ddod o hyd i wybodaeth yn annibynnol a bydd hefyd yn dangos bod gen ti ddiddordeb gwirioneddol yn yr hyn rwyt ti’n ei astudio.

Bydd hyn i gyd yn gwella dy ddealltwriaeth o’r pwnc ac yn dy helpu i baratoi ar gyfer dy yrfa yn y dyfodol.

Cadw cofnod o sgiliau newydd

Yn ystod dy amser yn y coleg a’r chweched dosbarth byddi di’n datblygu'r sgiliau sydd gen ti eisoes, ond byddi di hefyd yn ennill rhai newydd.

Ychwanega unrhyw brofiad neu sgiliau newydd i dy CV yn syth – mae'n haws na cheisio meddwl yn ôl a'u cofio wedyn. O wneud hyn, bydd dy CV yn gyfredol a byddi di’n barod i ymgeisio am swyddi neu brentisiaethau cyn i dy gwrs orffen. Bydd hefyd yn help wrth ysgrifennu datganiad personol ar gyfer y brifysgol.

Edrycha ar ein canllaw Creu CV a bydd yn ymwybodol o’th sgiliau a’th gryfderau.

Edrycha ar Making the most of Sixth Form and College (dolen Saesneg) ar wefan y Brifysgol Agored i glywed  myfyrwyr yn trafod y sgiliau yr oeddent wedi'u dysgu i'w paratoi ar gyfer y Brifysgol.

Ennill profiad

Bydd dy astudiaethau (a’th fywyd cymdeithasol) yn dy gadw di’n brysur dros ben, ond bydd profiad o weithio yn dy baratoi ar gyfer y dyfodol ac yn edrych yn dda ar dy CV neu dy gais prifysgol. Mae modd dod o hyd i waith rhan-amser neu wirfoddoli.

Bydd gwaith yn rhoi:

  • Cyfle i ddechrau ennill cyflog ac i reoli arian
  • Y sgiliau allweddol y mae cyflogwyr eu heisiau, fel sgiliau cydweithio, cadw amser, a chyfathrebu
  • Annibyniaeth
  • Hyder

Edrycha ar Cael Swydd i gael help gyda CV, ffurflenni cais, cyfweliadau a mwy.

Bydd gwirfoddoli yn helpu:

  • Datblygu dy sgiliau cyfathrebu
  • Yn dy herio di i weithio mewn gwahanol amgylcheddau gyda phobl nad wyt ti yn eu hadnabod
  • Cynyddu dy hyder
  • Gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd a bod yn rhan o'th gymuned leol

Dysga ragor am fanteision gwirfoddoli.

Rhoi cynnig ar offer digidol

Defnyddia apiau i helpu gyda dy ddysgu. Gall apiau astudio dy gefnogi trwy greu rhestrau o dasgau, trwy gadw cofnod o dy waith, trwy ddanfon negeseuon i dy atgoffa i adolygu, neu trwy dy helpu i ymarfer ateb cwestiynau arholiadau.

A phaid ag anghofio'r apiau sydd wedi’u creu yn benodol ar gyfer myfyrwyr er mwyn cynnig gostyngiadau a bargeinion.

Yn ogystal â rhoi cefnogaeth i ti wrth astudio, gall defnyddio offer digidol dy helpu i ddatblygu dy sgiliau digidol hefyd. Mae cymhwysedd digidol yn sgil y mae cyflogwyr yn chwilio amdano yn aml, a bydd canfod ffyrdd o ddefnyddio technoleg yn dy helpu i ddatblygu'r sgil hon.

Cymryd rhan

Mae'n bwysig dysgu ac astudio ond mae'r un mor bwysig i brofi ochr gymdeithasol y coleg a'r chweched dosbarth. Gwneud ffrindiau newydd a phrofi pethau newydd.

Mae ymuno â chlybiau neu wneud gweithgareddau yn dy ysgol neu goleg yn ffordd wych o ennill profiad a sgiliau ac o ddod i adnabod pobl. Gallet ti roi cynnig ar wneud gwahanol rolau neu gefnogi gyda threfnu digwyddiadau.

Mae ymroi i achos penodol yn dangos i gyflogwyr posibl bod gen ti ystod eang o brofiad, ac mae’n rhywbeth gwych i'w gynnwys yn dy CV, ar ffurflenni cais i brifysgolion a chyflogwyr, neu i’w drafod mewn cyfweliad.

Cymer amser i ystyried syniadau gyrfa

Ymchwilia dy syniadau gyrfa. Meddylia am yr hyn rwyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy bynciau, a meddylia pa swyddi allai fod yn addas.

  • Rho gynnig ar y Cwis Paru Gyrfa i ddod o hyd i syniadau am swyddi sy'n gweddu â dy sgiliau a’th ddiddordebau
  • Rho gynnig ar y Cwis Buzz i weld pa fath o bersonoliaeth sydd gen ti a pha swyddi a allai fod yn addas
  • Chwilia am wybodaeth am gannoedd o swyddi gwahanol ar Gwybodaeth am Swyddi

Siarada am dy syniadau a dy ddewisiadau gyda Chynghorydd Gyrfa. Cysylltu â ni.

Bydd yn barod i siarad

Er bod mynd i’r coleg neu’r chweched dosbarth yn gallu bod yn gyffrous ac yn her newydd, mae'n gallu peri pryder a gor-bryder i rai. Cofia fod pobl yno i dy gefnogi di.

Yn y coleg, cysyllta â gwasanaethau myfyrwyr. Gallant dy gefnogi gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gen ti am gyrsiau, cyllid, ac iechyd meddwl.

Yn y chweched dosbarth, siarada â’r Pennaeth Blwyddyn neu gymorth bugeiliol os bydd rhywbeth yn dy boeni. Byddan nhw'n gallu cynnig y cymorth rwyt ti ei angen.

Cysyllta â sefydliadau eraill a allai helpu, fel:

Meic – llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc
Samaritans – sy’n rhoi cefnogaeth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol
Contact us ar y ffôn, ar e-bost, neu sgwrs fyw i drafod dy syniadau a'th opsiynau gyrfa


Cyngor gan fyfyrwyr


Dy opsiynau

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.


Cefnogaeth i rieni

Rhieni

Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.

Darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 Cymru

Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn a’n awyddus i barhau â'ch addysg a'ch hyfforddiant, mae amrywiaeth o ddarpariaethau y gallech chi ddewis o’u plith, gan gynnwys colegau, ysgolion, darparwyr hyfforddiant, a phrifysgolion.