Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwneud y gorau o'r coleg

Dau fyfyriwr yn sefyll am hunluniau gydag eiconau llaw, bwlb golau, tabled a chog

Pan fyddwch chi'n dechrau eich blwyddyn gyntaf yn y coleg, rydych chi'n debygol o fod yn brysur yn setlo i mewn i'ch cwrs, yn cyfarfod â phobl newydd ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau coleg. Mae llawer i feddwl amdano ac efallai eich bod chi yn teimlo'n gyffrous ac yn nerfus.

Mae Alice Bird ac Ashley Horobin wedi gorffen eu blynyddoedd cyntaf yng Ngholeg Sir Gâr yn ddiweddar ac yn  rhannu eu hawgrymiadau defnyddiol gyda chi ar gyfer gwneud yn fawr o'ch amser yn y coleg.

Prif Awgrymiadau

Byddwch yn chi eich hunan

Mae’n lle newydd, llechen lân. Byddwch yn cwrdd â phobl newydd ac yn profi pethau newydd. Bydd ymddiried ynoch chi'ch hun a'ch personoliaeth yn dangos yn eich gwaith ac yn y bobl sydd o’ch cwmpas.”

Ashley

Cadwch feddwl agored a rhowch gynnig ar bethau newydd

Mae cymaint o wahanol chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol i gymryd rhan ynddynt. Edrychwch ar y gweithgareddau sydd ar gael a chofrestrwch ar gyfer rhai sesiynau rhagarweiniol. Rhowch gynnig ar bopeth sydd o ddiddordeb i chi a gweld beth rydych chi'n ei hoffi fwyaf.”

Alice

Cymerwch hyn gam wrth gam

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi eich llethu, peidiwch â phoeni am bethau sydd heb ddigwydd eto. Canolbwyntiwch ar yr hyn sydd o'ch blaen, deliwch â phob tasg neu weithred wrth fynd yn eich blaen ac yna symudwch ymlaen. Gallwch chi feddwl am bethau mwy o faint pan fyddwch chi'n teimlo'n barod.”

Ashley

Cysylltwch â chymaint o bobl ag y gallwch

Mae'r coleg yn amrywiol ac yn gynhwysol iawn a byddwch yn cwrdd â phobl o bob cefndir a diwylliant gwahanol. Roeddwn yn nerfus iawn pan ddechreuais i gan fod llawer o fy ffrindiau o'r ysgol yn mynd i goleg gwahanol. Ond yn gyflym iawn fe wnes i setlo i mewn, gwneud yr ymdrech i sgwrsio â gwahanol gyd-ddisgyblion a chwrdd â fy mhobl.”

Alice

Cofiwch ei chymryd hi'n araf a mwynhau'r profiad

Nid y dosbarthiadau a'r gwaith yw’r unig bethau pwysig - ceisiwch wneud amser i gael hwyl gyda'ch ffrindiau. Bydd ffrindiau yn helpu i wneud y dyddiau'n haws. Ffrindiau yw'r gorau.”

Ashley

Gwnewch eich gwaith yn brydlon

Gall gwaith coleg gronni’n gyflym. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud eich gwaith cartref ac aseiniadau wrth i chi eu cael. Ceisiwch gynllunio a blaenoriaethu eich gwaith i arbed mwy o straen a gwaith yn y dyfodol.”

Alice

Gwiriwch eich iechyd meddwl

Roeddwn i’n nerfus iawn pan ddechreuais i yn y coleg ar ôl cael fy mwlio yn yr ysgol. Roedd fy iechyd meddwl wedi bod yn isel ar adegau a doedd gen i fawr o hyder. Ond, dechreuais gael y cymorth oedd ei angen arnaf i gynyddu fy hyder a gwneud ffrindiau. Os ydych chi’n teimlo’n bryderus neu’n isel, cofiwch fod y tîm llesiant yno i’ch cefnogi.”

Ashley

Cadwch ddewisiadau'r dyfodol mewn cof

Defnyddiwch y flwyddyn gyntaf hon i gael ymdeimlad o'r hyn rydych chi'n ei fwynhau, beth nad oes gennych chi gymaint o ddiddordeb ynddo, a pha fath o faes y gallech chi fod eisiau ei ystyried yn y dyfodol. Gall cymaint o’r pethau bach fod yn berthnasol i’ch gyrfa yn y dyfodol, felly bydd cadw hyn mewn cof yn eich helpu gyda phenderfyniadau yn y dyfodol.”

Alice

Archwilio eich syniadau gyrfa