Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cwestiynau a allai fod gennyt ar ôl dechrau cwrs newydd

Mae llawer i ystyried pan fyddi di'n dechrau cwrs newydd. Gwna’n siwr dy fod yn cael awgrymiadau i ddelio â phethau a allai fod ar dy feddwl.

Cwestiynau y gallet fod yn eu gofyn

Sut galla i ymdopi gyda fy llwyth gwaith?

Gall bod yn y coleg / chweched dosbarth fod yn hollol wahanol i'r hyn rwyt ti wedi ei wneud o'r blaen. Bydd disgwyl i ti fod yn ddysgwr annibynnol gan reoli dy amser yn effeithiol. Efallai y cei di fwy o aseiniadau a bydd disgwyl i ti wneud mwy o waith ymchwil.

Mae’n naturiol teimlo dy fod yn cael dy lethu braidd gan yr holl waith a ffyrdd newydd o astudio. Ond mae yna bethau y gallet ti eu gwneud i helpu trefnu a rheoli dy amser yn dda. Dylet ti:

  • Roi blaenoriaeth i dy waith. Paid â gadael i bethau fynd yn drech na thi. Pan fyddi di'n cael aseiniad neu brosiect, gwna’n siŵr dy fod yn gwybod pryd mae’r dyddiad cyflwyno. Galli di weithio dy ffordd yn ôl o'r dyddiad hwnnw i roi syniad i ti yngylch pryd mae angen i ti ddechrau ymchwilio a dechrau ar y gwaith. Paid â gadael pethau tan y funud olaf gan mai dyma pryd y gelli di ddechrau mynd i banig
  • Ofyn i dy Athro/Tiwtor am ddyddiadau allweddol drwy gydol y flwyddyn. Mae angen i ti wybod pryd mae disgwyl i ti gyflwyno prosiectau a'r dyddiadau ar gyfer ffug arholiadau ac arholiadau terfynol. Bydd y wybodaeth hyn yn dy helpu i drefnu dy hun
  • Wneud nodiadau adolygu. Mae’n hawdd gadael astudio tan yr ychydig wythnosau olaf cyn yr arholiadau ond gall hyn ychwanegu llawer o bwysau arnat a gall bod yn flinedig. Bydd cael nodiadau adolygu ac amserlen adolygu, efallai'n wythnosol neu'n fisol, dy helpu i gofio'r wybodaeth. Bydd hyn yn gwella dy wybodaeth a dy dealltwriaeth o'r pwnc ac yn rhoi amser i ti ofyn cwestiynau i dy Athro/Tiwtor

Edrycha ar Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwneud y gorau o'r coleg.

Pa gymorth ariannol sydd ar gael?

Efallai y bydd angen arian arnat pan fyddi di'n astudio i:

  • Dalu am unrhyw gostau cwrs os oes angen
  • Prynu unrhyw offer neu ddeunyddiau y bydd eu hangen arnat
  • Teithio i dy fan astudio ac oddi yno
  • Cynorthwyo gyda chostau byw os wyt ti’n byw ar ben dy hun
  • Cynorthwyo gyda chostau gofal plant os oes gennyt blant sy’n dibynnu arnat  
     

Mae’r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar dy amgylchiadau. Dylet ti:

  • Siarad gydag adran Gwasanaeth Myfyrwyr dy goleg neu dy Bennaeth Chweched Dosbarth. Gallant roi’r wybodaeth sydd ei hangen am unrhyw grantiau neu gymorth sydd ar gael
  • Edrych ar Cyllid myfyrwyr Cymru i ddysgu pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr llawn amser a rhan amser
  • Edrych ar Gov.uk am wybodaeth ar Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) os oes gennyt gyflwr iechyd corfforol neu gyflwr iechyd meddwl hirdymor neu anabledd
  • Edrych ar Cyllido eich astudiaethau i ddysgu am y gwahanol opsiynau ariannu sydd ar gael i dy gefnogi gydag addysg
Ydy fy nghwrs/pwnc yn dal yn addas nawr fy mod i wedi newid fy syniad am yrfa?

Mae syniadau gyrfa yn newid yn seiliedig ar bethau gwahanol, fel:

  • Sylweddoli nad yw'r cwrs yr ydych arno yr hyn yr oeddech yn gobeithio y byddai, felly nid ydych am ddilyn gyrfa yn y llwybr yma mwyach
  • Eich bod wedi darganfod hobi neu ddiddordeb newydd sydd wedi gwneud i chi ystyried syniadau gyrfa eraill

Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am eich cwrs/pwnc fe ddylech:

  • Archwiliwch eich syniad gyrfa newydd ar Gwybodaeth Swyddi i ddarganfod y cymwysterau y bydd eu hangen arnoch. Efallai y bydd y cwrs yr ydych yn ei wneud nawr yn dal yn addas
  • Siaradwch â'ch athro neu diwtor am eich syniadau i weld a allwch chi gymryd pwnc neu gwrs arall
  • Os ydych chi'n bwriadu mynd i'r brifysgol, edrychwch ar UCAS i weld gofynion gwahanol raddau

Cofiwch. Gall Gyrfa Cymru gynnig cyngor ac arweiniad diduedd am ddim i chi. Cysylltwch â ni i ddarganfod sut i siarad â Chynghorydd Gyrfa am eich syniadau a'ch opsiynau gyrfa.

Sut mae dod i arfer ag athrawon a thiwtoriaid newydd?

Mae'n cymryd amser i addasu i diwtor neu athro newydd. Efallai bod ganddyn nhw ffordd wahanol o esbonio pethau. Dylet ti:

  • Roi amser i ti dy hun i setlo a dod i arfer â'r ffordd newydd o ddysgu
  • Feddwl am y rhesymau dros fod ar y cwrs hwn. Os mai dyma'r cwrs sy'n arwain at dy nodau gyrfa yna canolbwyntia ar y nodau hynny
  • Ystyried os wyt ti'n cael trafferth deall pethau yn y dosbarth, gofynna i dy athro neu diwtor dy helpu. Os nad wyt ti’n deall rhywbeth, yna mae'n debygol na fydd pobl eraill yn y dosbarth yn deall chwaith

Os wyt ti'n dal yn anhapus yna fe ddylet ti siarad â rhywun am y peth. Siarada gyda:

  • Dy diwtor dosbarth neu bennaeth blwyddyn
  • Gwasanaethau myfyrwyr, lles myfyrwyr neu bennaeth adran yn y coleg
  • Gyrfa Cymru i siarad â Chynghorydd Gyrfa am dy opsiynau. Cysylltu â ni
  • Dy ffrindiau a theulu dibynadwy
Ydych chi'n teimlo eich bod angen cefnogaeth bellach?

Os oedd gennych gefnogaeth yn yr ysgol yna efallai y gwelwch eich bod yn colli'r gefnogaeth yma yn y coleg. Peidiwch â phoeni, efallai y gall y coleg hefyd gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo a mwynhau'r coleg.

Yn dibynnu ar y math o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, gallwch siarad â:

  • Adran gwasanaeth myfyrwyr
  • Cynghorydd Anabledd

Dywedwch wrthyn nhw:

  • Pa gefnogaeth gawsoch chi yn yr ysgol
  • Am unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd gennych
  • Am yr anawsterau rydych chi'n eu hwynebu ar hyn o bryd
  • Sut yr hoffech chi gael cefnogaeth yn y coleg

Byddwch yn onest. Maen nhw yno i'ch helpu, ond i wneud hyn mae'n rhaid i chi fod yn onest gyda nhw ac egluro'r gefnogaeth yr ydych ei angen.

Cofiwch. Mae yna lawer o sefydliadau a all gefnogi gydag unrhyw bryderon sydd gennych. Cysylltwch â sefydliadau a all helpu fel

  • Meic – llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc
  • Samariaid – yn darparu cymorth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol (dolen Saesneg)
  • Mind Cymru - yr elusen iechyd meddwl
Sut alla i wneud y gorau o'm hamser yn y coleg a'r chweched dosbarth?

Mae’n wych dy fod yn mwynhau’r hyn rwyt ti’n ei astudio ac yn gallu gweld manteision gwneud mwy er mwyn gwneud y gorau dy amser. Bydd popeth ychwanegol a wnei di yn dy paratoi ar gyfer dy ddyfodol. Edrych ar 7 ffordd o wneud y gorau o'r coleg a'r chweched dosbarth.


Efallai i chi hefyd hoffi

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.

Cefnogaeth i rieni