Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cyllid ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig

Dewch o hyd i’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i chi ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig mewn prifysgolion, gan gynnwys cyrsiau meistr a doethuriaeth.

Cyllid gradd meistr ôl-raddedig

O Awst 2019 efallai y gallwch chi wneud cais am gyllid cwrs meistr ôl-radd. Os ydych chi’n gymwys, gallech chi gael hyd at  £18,430 a fyddai’n gyfuniad o fenthyciad a chyllid grant am gwrs blwyddyn.

Bydd bwrsariaeth o £4,000 ar gael i bobl dros 60 i astudio ar gyfer gradd Meistr yng Nghymru.

Bydd bwrsariaeth gwerth £2,000 ar gael i raddedigion o bob oed i astudio yng Nghymru ar gyfer Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth.

Bydd bwrsariaeth gwerth £1,000 ar gael hefyd i ddilyn gradd Meistr drwy'r Gymraeg.

Am wybodaeth am gymhwysedd a’r cyllid sydd ar gael:

Cyllid Myfyrwyr Cymru - Cyllid radd meistr ôl-raddedig

Llywodraeth Cymru – Cyllid myfyrwyr: myfyrwyr addysg uwch, cwrs meistr ôl-radd a doethuriaeth

Benthyciad doethurol ôl-raddedig

Gallwch chi wneud cais am fenthyciad doethurol ôl-raddedig o hyd at £27,880 os ydych chi’n dechrau cwrs doethuriaeth (PhD) ôl-raddedig llawn amser neu ran amser. Gall y benthyciad hwn helpu gyda ffioedd y cwrs a chostau byw tra byddwch chi’n astudio. Mae gwybodaeth am gymhwysedd, sut i wneud cais a’r telerau ad-dalu yn Benthyciad cwrs doethurol ôl-raddedig Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Dod o hyd i grantiau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau

Gallwch chi chwilio mewn amrywiaeth o leoedd am ysgoloriaethau, grantiau a bwrsariaethau i gyfrannu tuag at eich astudiaethau ôl-radd. Mae gan y Scholarship Hub (Saesneg yn unig) nodwedd chwilio er mwyn edrych am gyllid ychwanegol.

Cofiwch y gall dod o hyd i gyllid a gwneud cais amdano gymryd llawer o amser felly dechreuwch chwilio cyn gynted â phosibl. Mae’n annhebygol y bydd ffynonellau eraill o gyllid yn talu am eich holl gostau ond gallan nhw gyfrannu at eich costau. Ymysg y lleoedd i ddod o hyd i gyllid ôl-radd mae:

Cynghorau ymchwil

(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)

UK Research and Innovation dudalen gyllid ac mae yno hefyd ddolenni i’r cynghorau ymchwil:

Arts and Humanities Research Council (AHRC)

Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC)

Engineering and Physical Sciences Research Council (EPSRC)

Economic and Social Research Council (ESRC)

Medical Research Council (MRC)

Natural Environment Research Council (NERC)

Science and Technology Facilities Council (STFC)

Innovate UK

Research England

Ymddiriedolaethau elusennol

Chwiliwch am ymddiriedolaethau elusennol a allai roi cyllid i chi yn Directory of Social Change's Funds Online (Saesneg yn unig).

Ysgoloriaethau Llywodraeth y DU

Nod Chevening scholarships  (Saesneg yn unig) yw datblygu arweinwyr byd-eang ac fe’i hariennir gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a sefydliadau eraill sy’n bartneriaid.

Mae Commonwealth scholarships (Saesneg yn unig) ar agor i bobl sy’n byw yn y Gymanwlad ac sydd â’r potensial i newid pethau. Mae rhyw 800 o wobrau ar gael bob blwyddyn.

Ffynnonellau posibl eraill o gyllid

Employer sponsorship (gwefan Prospects) (Saesneg yn unig) - efallai y gwnaiff cyflogwyr ystyried eich noddi chi, os yw’r hyn rydych chi’n bwriadu ei astudio’n berthnasol i’ch gwaith.

Crowdfunding (gwefan Prospects) (Saesneg yn unig) - mae’n rhaid i chi fod yn wych am farchnata eich hun os ydych chi’n ystyried cyllido torfol.



Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Cyllid i fyfyrwyr yn y brifysgol

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu. 

Astudio dramor

Manteision ac anfanteision astudio addysg uwch dramor. Dewch i wybod a fyddai astudio dramor yn addas i chi.