Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

ReAct Plws

Llaw yn troi'r rheolydd sain ar fwyhadur sy'n dweud ReAct+

Os ydych chi wedi cael eich diswyddo, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth wedi'i deilwra er mwyn eich helpu i gael swydd arall cyn gynted â phosibl.

Beth yw ReAct+?

Mae ReAct+ yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n ceisio mynd yn ôl i’r farchnad lafur drwy ddiddymu rhwystrau a darparu cymorth grant ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol, gofal gan gynnwys gofal plant, a chostau teithio yn ymwneud â hyfforddiant.

Rhaglen grant yw ReAct+ sy'n adeiladu ar lwyddiant rhaglenni'r gorffennol. Mae'n rhan o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru.

Pwy sy'n gymwys

Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth ReAct+, rhaid ichi fod yn 20 oed neu’n hŷn, rhaid ichi fod yn byw yng Nghymru, a rhaid bod gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU.

Rhaid ichi hefyd fodloni UN o’r meini prawf isod:

  • Yn 20 oed neu’n hŷn, ac wedi cael rhybudd ffurfiol eich bod yn cael eich diswyddo neu
  • Yn 20 oed neu’n hŷn, ac wedi eich diswyddo yn ystod y 6 mis diwethaf neu
  • Yn 20 oed neu’n hŷn, ac yn gyn-droseddwr neu’n droseddwr sy’n cyflawni dedfryd gymunedol

Sut mae'n gweithio?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod sut y gall ReAct+ eich helpu, cysylltwch â Cymru'n Gweithio i drefnu apwyntiad.

Bydd un o gynghorwyr Cymru'n Gweithio yn gallu rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol a diduedd ar yrfaoedd ichi, gan edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael ichi.

Os mai ReAct+ yw'r peth iawn ichi, bydd un o'r cynghorwyr yn eich helpu i wneud cais a chreu cynllun gweithredu. Ar ôl inni gadarnhau eich bod yn gymwys a chymeradwyo eich cynllun, bydd eich cynghorydd yn cyflwyno eich cais am grant drwy borth ReAct+ ar-lein.

Beth sydd ar gael ichi drwy ReAct+?

Mae'r cymorth wedi'i deilwra'n benodol i chi ac i’ch sefyllfa chi. Nod yr holl gymorth a gynigir yw sicrhau eich bod yn cael swydd arall cyn gynted â phosibl.

Mae ReAct+ yn darparu grant o hyd at £1,500 i’ch helpu i gael y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch a gall hefyd ddarparu:

  • Hyd at £2,100 i helpu i dalu costau gofal plant/gofal arall wrth ichi gwblhau hyfforddiant
  • Hyd at £200 o gymorth ar ben hynny tuag at unrhyw gostau ychwanegol wrth ichi gwblhau hyfforddiant, gan gynnwys costau teithio a llety

Sut y gallai ReAct+ gefnogi eich cyflogwr nesaf

Oes gennych chi ddarpar gyflogwr mewn golwg? Gall darpar gyflogwr wneud cais am gymorth gyda’ch cyflog os ydych chi:

  • Yn 20 neu'n hŷn, yn byw yng Nghymru, ac yn anabl, (gan gynnwys pobl â nam corfforol, niwrowahaniaeth, ac iechyd meddwl) ac:
  • O dan rybudd diswyddo ffurfiol neu
  • Wedi colli eich swydd o fewn y 6 mis diwethaf

Mae'n rhaid nad ydych wedi gweithio am 6 wythnos neu fwy ers i chi golli eich swydd cyn iddynt wneud cais. Rhaid i chi hefyd beidio â dechrau gweithio i'ch cyflogwr newydd nes bod y cymorth wedi'i gymeradwyo.

Pa gymorth sydd ar gael i gyflogwr?

Os ydych chi’n gymwys o dan ReAct+, gallai eich cyflogwr newydd gael:

  • Hyd at £4,000 tuag at eich cyflog ym mlwyddyn gyntaf eich swydd newydd

Rhaid i'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani:

  • Fod am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • Talu o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol
  • Rhaid disgwyl iddyn nhw barhau am o leiaf 12 mis.
  • Peidio â chael ei dalu gan gyllid arall gan y llywodraeth

Pwysig: Ni fydd eich cyflogwr newydd yn cael cymorth o dan ReAct+ os byddwch yn dechrau gweithio iddo cyn i’r pecyn cymorth gael ei gymeradwyo. Ni fyddant ychwaith yn cael cymorth os ydych chi wedi gweithio am 6 wythnos neu fwy ers eich diswyddiad a chyn iddynt wneud cais.

Sut gall cyflogwyr wneud cais?

Dylai darpar gyflogwyr gysylltu â Busnes Cymru ar 03000 6 03000 i gael gwybod sut y gall ReAct+ fod o fudd i’w busnes a’u gweithwyr.

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n ystyried yr angen i ddileu swyddi, efallai y bydd eich cyflogeion hefyd yn elwa o ReAct+.

Sut gallaf i wneud cais?

Os ydych chi am wneud cais am gymorth ReAct+, cysylltwch â Cymru'n Gweithio am ddim ar 0800 028 4844.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cael swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith