Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Dewis cwrs yn 18 oed

Ydych chi’n meddwl dilyn cwrs yn 18 oed, ar ôl eich Safon Uwch neu gymwysterau eraill? Gallwn eich helpu i benderfynu pa gwrs a darparwr sy’n iawn i chi. 

Bydd y dewis y byddwch chi’n ei wneud nawr yn cael effaith wirioneddol ar eich gyrfa yn y dyfodol. Er ei bod yn bosibl newid neu adael eich cwrs, bydd canfod y cwrs cywir sy’n eich cyffroi a’ch hysgogi yn arbed trafferth ac arian i chi yn nes ymlaen.

Os ydych dal yn ansicr am yr hyd rydych eisiau ei wneud ar ôl gadael yr ysgol neu goleg, edrychwch eto ar eich opsiynau yn 18.


Gofynnwch i chi'ch hun

1. Pa bynciau ydw i yn eu mwynhau? 

Gall gwybod pa bynciau rydych wedi’u mwynhau fwyaf hyd yn hyn eich helpu i nodi’r cyrsiau y gallech eu mwynhau. Cofiwch y gallech fod yn astudio’r pynciau am 2 flynedd neu fwy.

2. Pa bynciau rwy’n dda am eu gwneud?

Rydych angen meddwl os yw'r pynciau rydych yn dda yn ei wneud yn ddefnyddiol ar gyfer eich syniadau gyrfa a'ch camau nesaf. Trafodwch gyda'r athrawon a'ch tiwtoriaid i gael syniad o'r graddau y byddwch yn debygol o'u hennill fel bod syniad gwell gennych o'r pwyntiau UCAS (dolen Saesneg) rydych yn anelu atynt.

3. Sut rwy’n hoffi dysgu? 

Rydym i gyd yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol.  Mae’n bosibl eich bod yn hoffi parhau i ddysgu mewn ffordd ymarferol, gan ddysgu yn y swydd neu drwy raglen hyfforddi neu brentisiaeth. Neu efallai bod gwell gennych barhau gyda astudiaethau academaidd ar gwrs mewn coleg neu brifysgol.

4. Lle hoffwn i ddysgu/astudio?

Rydych angen meddwl am ble yr hoffech chi astudio. Efallai eich bod eisiau symud i ffwrdd i astudio neu efallai bydd well gennych aros yn agos i'ch cartref. Bydd cael syniad o ble rydych yn gweld eich hun yn astudio dros y blynyddoedd nesaf yn eich helpu i ddechrau meddwl am eich opsiynau cyllid a llety.

5. Lle y gallai cyrsiau a chymwysterau penodol fy arwain?  

Mae’n bosibl y bydd angen cyrsiau neu gymwysterau penodol ar gyfer gyrfaoedd penodol. Mae nifer o lwybrau gwahanol. Dyma rai enghreifftiau:    

  • Os ydych yn gobeithio bod yn Gyfrifydd neu'n Beiriannydd yna efallai i chi ystyried dewis gradd israddedig neu ddewis cyrsiau ymarferol fel Diploma Cenedlaethol Uwch neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol
  • Oes oes gyrfa penodol dan sylw fel Meddygaeth neu Filfeddygaeth yna mae dewis cwrs gradd israddedig ychydig yn fwy syml 

Dewch i wybod mwy am gymwysterau a defnyddio Gwybodaeth am Swyddi i weld pa gymwysterau sydd ei angen ar gyfer gwahanol swyddi.


Y 6 cam gyntaf i'w cymryd

Gwnewch eich gwaith cartref

Chwiliwch am gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y cyrsiau a’r pynciau sydd ar gael a lle yr hoffech astudio:

  • Darganfyddwch pa gyrsiau y gallwch eu hastudio mewn colegau a darparwyr hyfforddiant yn agos atoch chi gan ddefnyddio Chwilio am Gwrs
  • Darganfyddwch pa gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael drwy UCAS Course Search
  • Gwiriwch gynnwys y cwrs. Beth fyddwch chi’n ei ddysgu a sut byddwch yn dysgu?
  • Ewch i ddiwrnodau agored colegau a Phrifysgolion  
  • Holwch diwtoriaid ac athrawon. Holwch fyfyrwyr eraill
  • Lluniwch restr fer
Gofynion mynediad

Bydd rhai swyddi yn gofyn am bynciau a chymwysterau penodol felly bydd angen bod yn ymwybodol o beth y dylech fod yn ei astudio os oes gennych syniad gyrfa dan sylw. Edrychwch ar Gwybodaeth am Swyddi i weld pa bynciau a graddau sydd ei angen ar gyfer gwahanol swyddi.

Gwiriwch pa raddau neu bwyntiau UCAS sydd eu hangen arnoch ar gyfer y cyrsiau y mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw ar wefannau colegau a phrifysgolion a UCAS Course Search. (dolen Saesneg yn unig)

Meddyliwch am eich syniadau gyrfa

Oes gennych chi yrfa mewn golwg? Gwiriwch pa bynciau a graddau sydd eu hangen yn Gwybodaeth am Swyddi.

Edrych ar Swyddi Dyfodol Cymru i archwilio rai o ddiwydiannau pwysicaf Cymru.

Dewch i wybod mwy am y swyddi sydd mewn galw nawr ac yn y dyfodol ar Dyfodol Gwaith yng Nghymru.

Yn ansicr am eich syniadau gyrfa? Rhowch gynnig ar ein Cwis Paru Gyrfa. Bydd y cwis yn paru eich sgiliau a'ch diddordebau i wahanol swyddi ac yn eich helpu i archwilio ble y gall pynciau arwain.

Ariannu’r cwrs

Nid yw dysgu bob tro am ddim ar ôl i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn 18 oed.

Ymchwiliwch i weld pa arian sydd ar gael a pha gymorth y gallech ei gael ar cyllido eich astudiaethau.

Cadwch lygaid ar y wybodaeth diweddaraf am fenthyciadau a grantiau ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Gwneud rhestr o’r manteision a’r anfanteision

Y ffordd hawsaf o ddod i benderfyniad yw ysgrifennu rhestr o fanteision ac anfanteision pob opsiwn. Meddyliwch am:

  • Bethau positif pob opsiwn
  • Pethau negyddol pob opsiwn
  • At beth y gallai pob opsiwn arwain
Mae’n dda i siarad

Siaradwch â’ch teulu, ffrindiau, tiwtoriaid ac athrawon ynghylch eich dewisiadau. Gall siarad eich helpu i wneud y penderfyniad mawr hwn. Byddent yn gallu rhoi perspectif gwahanol i chi a chynnig syniadau efallai nad ydych wedi meddwl amdanynt. 

Cysylltwch gyda Gyrfa Cymru i drafod eich opsiynau gyda chynghorydd gyrfa.


Sut ydw i'n cadw fy opsiynau ar agor?

Os ydych yn gwybod eich bod eisiau mynd i’r brifysgol ond ddim yn gallu penderfynu pa gwrs i’w ddilyn, gallech ddilyn gradd gyffredinol dda, fel Saesneg, Mathemateg neu Wyddoniaeth, a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr.


Archwilio syniadau gyrfa

Dolenni defnyddiol

(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)

A Level Choices Tool (Which? University)  
Students’ top 20 tips for choosing a course (The Guardian)
What can I do with my degree? (Prospects)
Gwybodaeth am Swyddi (Gyrfa Cymru)


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cael gwybodaeth am gymwysterau

Deallwch lefelau cymhwyster a pham maen nhw'n bwysig. Dysgwch am gymwysterau, gan gynnwys NVQ, TGAU, BTEC, Safon Uwch, graddau a HND.

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.

Mynd i brifysgol

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.