Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Dewis pynciau a chyrsiau yn 16 oed

Ydych chi’n ystyried pa gyrsiau Safon Uwch, BTEC neu gyrsiau eraill i'w dilyn ar ôl eich TGAU? Gallwn eich helpu chi gyda’r penderfyniad pwysig hwn.

Mae’r pynciau a’r cyrsiau a ddewiswch nawr yn bwysig iawn i:

  • Ddewis gyrfa  -  Efallai y bydd angen pynciau penodol ar gyfer gyrfaoedd penodol. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael cymwysterau galwedigaethol penodol ar gyfer rhai swyddi a gyrfaoedd, er enghraifft Celf a Dylunio. Efallai y bydd Prifysgolion yn gofyn am raddau da mewn pynciau penodol. Rhai enghreifftiau:
    • Mae Mathemateg a Ffiseg yn aml yn hanfodol ar gyfer cyrsiau Peirianneg
    • Mae angen Bioleg bron ym mhob achos i astudio gradd Ffisiotherapi
    • Mae gan rai prifysgolion restr ddewisol o bynciau Safon Uwch ar gyfer mynediad cyffredinol yn ogystal â gofynion penodol ar gyfer cyrsiau penodol
    • Yn aml, nid yw prifysgolion yn derbyn meddwl yn feirniadol neu astudiaethau cyffredinol fel un o’ch graddau Safon Uwch
    • Ond cofiwch. Bydd nifer o brifysgolion yn ystyried eich cais beth bynnag yw’r cyrsiau a ddewiswch.
  • Cyfleoedd gwaith - Efallai hefyd i gyflogwyr ofyn am raddau da mewn pynciau dewisol. Er enghraifft, Gwyddoniaeth, Mathemateg neu Adeiladu ar gyfer Prentisiaeth Adeiladu Lefel 4
  • Pwyntiau a Graddau UCAS sydd eu hangen ar gyfer prifysgol a dysgu pellach  - Gall graddau da mewn cyrsiau Safon Uwch neu bynciau cyfatebol ennill mwy o’r pwyntiau UCAS sydd eu hangen i gael mynediad i nifer o gyrsiau prifysgol. Cewch wybod mwy am Bwyntiau UCAS ar wefan UCAS UCAS Tariff Points (dolen Saesneg)

Os ydych dal yn ansicr o beth i'w wneud ar ôl eich TGAU archwiliwch eich Opsiynau yn 16.

Edrychwch ar wefan Informed Choices (dolen Saesneg) is weld pa bynciau y gallai fod eu hangen arnoch chi os ydych chi'n ystyried mynd ymlaen i wneud gradd. 

Gwahanol gymwysterau

Gall yr ystod o wahanol fathau a lefelau o gymwysterau mewn gwahanol bynciau fod yn ddryslyd.

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion a cholegau yn cynnig cymysgedd o gyrsiau academaidd, fel Safon Uwch, a chyrsiau galwedigaethol, fel BTECs, er enghraifft:

  • Safon Uwch- Mae cyrsiau yma arfer yn canolbwyntio ar arholiadau mewn nifer o bynciau academaidd a chyfarwydd. Gallwch hefyd wneud cyrsiau Safon Uwch mewn pynciau galwedigaethol mwy newydd fel Astudiaethau’r Cyfryngau. Fel arfer, gallwch astudio rhwng 1 a 3 o wahanol bynciau Safon Uwch a fydd yn eich galluogi i astudio amrywiaeth o bynciau, sy’n ddefnyddiol iawn os ydych am gadw pob drws ar agor.
  • BTEC a chyrsiau galwedigaethol eraill - Mae'r cyrsiau yma yn tueddu i fod yn seiliedig ar waith cwrs ac maen nhw’n canolbwyntio’n fwy ar yrfaoedd. Er enghraifft,  pynciau fel Chwaraeon, Peirianneg neu Letygarwch. Yn dibynnu ar y lefel rydych yn ei astudio, gall y cymhwysedd gyfateb i 1, 2 neu 3 cwrs Safon Uwch. Mae cyrsiau BTEC a chymwysterau galwedigaethol eraill yn ddefnyddiol os oes gennych yrfa benodol mewn golwg.

Darganfyddwch fwy am y cyrsiau, y pynciau a'r cymwysterau a gynigir gan yr ysgol neu'r coleg rydych chi'n meddwl amdano.

Cael gwybodaeth am gymwysterau.

Pynciau hwyluso – Beth yw’r rhain a pham y dylwn i eu dewis?

Pynciau hwyluso yw'r pynciau sydd eu hangen fwyaf aml er mwyn cael mynediad i gwrs gradd. Mae prifysgolion Grŵp Russell (dolen Saesneg) yn eu galw’n ‘bynciau hwyluso’ oherwydd drwy ddewis y rhain gallwch ehangu eich opsiynau ar gyfer astudiaethau mewn prifysgol. Y pynciau hwyluso yw:

  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Mathemateg a Mathemateg Bellach
  • Bioleg
  • Cemeg
  • Ffiseg
  • Daearyddiaeth
  • Hanes
  • Ieithoedd Modern ac Ieithoedd Clasurol

Nid yw hyn yn golygu bod llai o werth i’r pynciau nad ydyn nhw wedi’u rhestru fel ‘pwnc hwyluso’. Y gwahaniaeth yw nad yw prifysgolion yn gofyn amdanyn nhw mor aml er mwyn cael mynediad i gwrs gradd. Mae angen rhai pynciau penodol nad ydyn nhw’n bynciau hwyluso ar gyfer rhai cyrsiau, fel Cymraeg, Economeg ac Astudiaethau Crefyddol.


Cadw eich opsiynau yn agored

Nid wyf yn gwybod beth rwyf eisiau ei wneud. Sut alla’i gadw pob drws ar agor?"

Efallai eich bod yn dal i fod yn ansicr am eich gyrfa ac mae hynny’n berffaith iawn. Cadwch ei opsiynau yn agored drwy:

  • Ddewis pynciau hwyluso - Os ydych am fynd i’r brifysgol ond nad ydych yn siŵr beth rydych chi eisiau ei astudio, rheol dda yw dewis dau bwnc hwyluso er mwyn cadw pob drws ar agor
  • Gadw cydbwysedd - Bydd cael cydbwysedd da o bynciau yn cadw pob drws ar agor os nad oes gennych yrfa mewn golwg

Beth Nesaf?

Mae llawer o bethau i feddwl amdanyn nhw. Fe ddylech:

  • Ymchwilio i’ch opsiynau pwnc a’ch syniadau am yrfaoedd
  • Dreulio amser yn meddwl am eich penderfyniad
  • Wrando ar gyngor gan eich Athrawon, eich Cynghorwyr Gyrfa a’ch rheini, ond gwnewch eich penderfyniad eich hunan
  • Llunio restr fer o bynciau
  • Wneud penderfyniad gwybodus. Efallai y byddwch yn clywed nifer o wahanol syniadau a barn, felly mae'n bwysig gwirio y ffeithiau eich hunan


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cael gwybodaeth am gymwysterau

Deallwch lefelau cymhwyster a pham maen nhw'n bwysig. Dysgwch am gymwysterau, gan gynnwys NVQ, TGAU, BTEC, Safon Uwch, graddau a HND.

Gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid