Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Mynd i brifysgol

Gallwn eich cynorthwyo i ddechrau dewis y cwrs cywir a’r brifysgol gywir ac i wneud cais.

Mae'n bwysig iawn ymchwilio i'ch holl opsiynau a rhoi digon o amser i benerfynu. Peidiwch â gadael pethau tan y funud olaf! Dechreuwch ymchwilio a chynllunio a pharatowch ar gyfer llenwi ffurflen UCAS.

Ydych chi'n barod am brifysgol?

Barod ar gyfer Prifysgol yw casgliad o adnoddau gan holl brifysgolion Cymru i'ch helpu i ddechrau addysg uwch.

Gallwn eich helpu gyda

Gwneud cais i'r brifysgol

Beth sydd angen ichi ei wybod am wneud cais i brifysgol, dyddiadau cau, y cais, profion derbyn a rhagor. 

Dyddiau agored mewn prifysgolion

Dysgwch am bwysigrwydd diwrnodau agored i ddewis prifysgol. Cewch yr awgrymiadau gorau am baratoi at ddiwrnodau agored a beth i'w wneud ar y dydd.

Astudio dramor

Manteision ac anfanteision astudio addysg uwch dramor. Dewch i wybod a fyddai astudio dramor yn addas i chi.

Beth yw clirio?

Beth sydd angen ichi ei wybod am system glirio'r brifysgol a sut mae ymgeisio drwy system glirio.



Ddim yn siŵr am brifysgol?

Mae mynd i’r brifysgol yn benderfyniad mawr a bydd angen ei ariannu, felly mae’n werth ystyried yr holl opsiynau eraill os na fyddwch yn siŵr neu os nad yw’r amser yn iawn:

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael cyflog. Dysgwch fwy am brentisiaethau, chwiliwch am swyddi gwag a mwy.

Cael Swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.

Blwyddyn i ffwrdd

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd. 

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.


Archwilio eich syniadau gyrfa