Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cwestiynau ac atebion cyfweliad swydd

Archwiliwch y prif gwestiynau cyfweliad ac atebion enghreifftiol gan ddefnyddio'r technegau STAR a SET.

Gwybod mwy am STAR, SET a thechnegau cyfweld eraill.

Ewch ati i ymarfer ateb cwestiynau yn uchel. Os gallwch chi, rhowch gynnig ar ymarfer gyda rhywun a all roi adborth gonest i chi. Po fwyaf y byddwch chi’n ymarfer, y mwyaf hyderus y byddwch chi yn y cyfweliad.

Disgrifiwch adeg pan oedd yn rhaid i chi ddelio â pherson anodd

Bydd yr enghraifft hon yn defnyddio'r dechneg STAR i ateb: Sefyllfa, Tasg, Gweithred, Canlyniad

Cyngor: Meddyliwch am enghraifft pan fu'n rhaid i chi ddelio â rhywun anodd a phan gafwyd canlyniad llwyddiannus. Defnyddiwch sefyllfa waith os yw’n bosibl. Defnyddiwch enghraifft bersonol os nad oes gennych unrhyw brofiad gwaith eto.

Sefyllfa: Roeddwn i'n gweithio yn siop Smith’s, a daeth cwsmer ata i. Dywedodd wrthyf ei fod wedi bod yn chwilio am blanhigyn a oedd yn y siop y diwrnod cynt a'i fod wedi dod yn ôl i'w brynu ond na allai ddod o hyd iddo. Roedd yn eithaf blin gan iddo ddweud ei fod wedi edrych ar hyd a lled y siop.

Tasg: Roedd angen i mi dawelu'r cwsmer a'i helpu i ddod o hyd i'r hyn yr oedd yn chwilio amdano.

Gweithred: Cynigiais i wirio a oedd y planhigyn mewn stoc ac eglurais y gallwn wirio'r stoc ar y cyfrifiadur, yn ogystal â mynd i wirio'r silffoedd. Gofynnais a fyddai'n hoffi aros neu gael golwg o gwmpas y siop tra’n aros. Penderfynodd y cwsmer aros.

Gwiriais y cyfrifiadur ac esboniais i'r cwsmer fod y planhigyn yr oedd eisiau mewn stoc ond ei fod wedi'i symud. Gwiriais i ble oedd y planhigyn nawr gan gynnig mynd â'r cwsmer i'r eil. Derbyniodd y cwsmer fy nghynnig. Es ag ef i'r eil iawn a dod o hyd i'r planhigyn. Gofynnais iddo a oedd unrhyw beth arall yr oedd yn chwilio amdano ac fe wnes i ei gynorthwyo i ddod o hyd iddynt.

Canlyniad: Roedd y cwsmer yn hapus iawn a diolchodd i mi am gymryd yr amser i ddod o hyd i'r planhigyn iddo. Prynodd blanhigion eraill hefyd. Parhaodd y cwsmer hefyd i siopa yn y siop ar ôl yr amser hwnnw.

Rhowch enghraifft o pryd y gwnaethoch chi roi gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol

Bydd yr enghraifft hon yn defnyddio'r dechneg CAR i ateb: Cyd-destun, Gweithred, Canlyniad

Cyngor: Mae gwasanaeth cwsmeriaid yn golygu profi bod gennych chi sgiliau pobl da. Os nad oes gennych enghraifft ym myd gwaith, fe allai hyn gynnwys helpu eraill trwy waith gwirfoddol, neu mewn clwb, neu yn yr ysgol, coleg neu brifysgol.

Cyd-destun: Roeddwn i'n gweithio mewn siop sy'n gwerthu ffonau symudol. Daeth cwsmer i mewn i'r siop oherwydd ei fod yn cael trafferth gyda'i ffôn symudol.

Gweithred: Gofynnais i'r cwsmer esbonio'r broblem gan wrando'n astud arno wrth iddo ddweud wrthyf i beth oedd o'i le ar ei ffôn. Gofynnais iddo a allwn i edrych ar y ffôn a dyma fe’n rhoi’r ffôn i mi. Wrth i mi edrych ar y ffôn, eglurais iddo beth roeddwn i'n ei wneud. Des i o hyd i'r broblem a dangos iddo beth oedd wedi digwydd.

Tra oeddwn yn datrys y broblem, sylwais ar rywbeth arall ar ei ffôn y gallai'r cwsmer fod yn cael anawsterau ag ef, felly gofynnais iddo am hyn. Dywedodd yr hoffai gael mwy o help i ddefnyddio’r swyddogaethau ar ei ffôn, felly esboniais hynny iddo, a rhoi gwefan ddefnyddiol iddo gyda thiwtorial ar-lein.

Canlyniad: Diolchodd y cwsmer i mi am ddatrys y broblem a dangos iddo sut i ddefnyddio'r ffôn yn well. Diolchodd hefyd i mi am y cymorth ychwanegol yr oeddwn wedi ei roi iddo. Dywedodd y cwsmer y byddai'n argymell y siop i'w ffrindiau a'i deulu oherwydd y gwasanaeth gwych yr oedd wedi'i gael. Rhoddodd adolygiad ar-lein gwych hefyd.

Disgrifiwch sefyllfa lle buoch chi’n gweithio'n hyblyg

Bydd yr enghraifft hon yn defnyddio'r dechneg EAR i ateb: Digwyddiad, Gweithred, Canlyniad

Cyngor: Mae gweithio'n hyblyg yn golygu eich bod yn hyblyg ac yn barod i newid eich cynlluniau i helpu rhywun arall. Meddyliwch am adeg pan wnaethoch chi newid eich cynlluniau i helpu rhywun arall.

Digwyddiad: Roeddwn yn dod i ddiwedd fy shifft yn y gwaith yn siop Smith’s pan ofynnodd fy ngoruchwylydd i mi weithio’n hirach. Dywedodd fod rhywun wedi ffonio i mewn yn sâl, a bod angen rhywun i gyflenwi felly gofynnodd imi a allwn i weithio shifft hirach.

Gweithred: Dywedais fy mod yn hapus i weithio'n hirach i helpu a dyma weithio’r shifft hwyrach. Am ei bod yn gyfnod y Nadolig, roedd y siop yn brysur iawn, ac fe wnes i weithio nes i'r siop gau. Fe wnes i hefyd gynnig gweithio diwrnodau ychwanegol os oedd fy angen i ar gyfer sêls y Flwyddyn Newydd.

Canlyniad: Cafodd y cwsmeriaid eu gwasanaethu'n gyflymach oherwydd bod mwy o staff ar y shifft. Diolchodd fy ngoruchwylydd i mi am weithio ar fyr rybudd.

Rhowch enghraifft o adeg y buoch chi’n gweithio fel rhan o dîm i gyrraedd nod

Bydd yr enghraifft hon yn defnyddio'r dechneg STAR i ateb: Sefyllfa, Tasg, Gweithred, Canlyniad

Cyngor: Gall ateb cwestiynau am waith tîm fod yn anodd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud beth wnaethoch chi o fewn y tîm. Beth oedd eich cyfraniad i'r tîm? Defnyddiwch 'fi' nid 'ni'.

Sefyllfa: Yn ddiweddar bûm i’n rhan o ddigwyddiad codi arian ar gyfer fy nghlwb rygbi lleol fel rhan o dîm o bump o bobl â’r dasg o gynllunio a threfnu diwrnod o hwyl. Roedd angen i ni godi o leiaf £500 ar gyfer offer newydd.

Tasg: Fy nghyfrifoldeb i oedd trefnu'r raffl i'w chynnal ar ddiwrnod y digwyddiad.

Gweithred: Gofynnais i'r tîm a oedd ganddyn nhw unrhyw gysylltiadau â busnesau lleol a allai gyfrannu gwobr a ches wybod pwy yn y tîm oedd yn ddigon hyderus i alw busnesau lleol i ofyn am rodd. Dywedodd dau berson eu bod yn barod i ffonio busnesau, ac felly fe wnaethon ni rannu'r rhestr. Fe wnes i baratoi sgript o'r hyn i'w ddweud a rhoi dyddiad cau o bythefnos i gwblhau'r dasg.

Fe wnes i wirio sut roedden nhw'n dod yn eu blaenau yn ystod yr wythnos a sylweddolais na fyddai un aelod o'r tîm yn gallu cwblhau'r dasg mewn pryd oherwydd ymrwymiadau eraill. Awgrymais ein bod yn cyfarfod i weld a oedd gennym ddigon o wobrau. Fe wnaethom gytuno rhyngom ni bod yna ddigon o wobrau ac nad oedd angen i ni gysylltu ag unrhyw un arall.

Ar y diwrnod roedd gennym stondin yn arddangos yr holl wobrau. Roeddwn yn rhan o’r tîm yn hyrwyddo gwerthiant y tocynnau raffl ar y diwrnod.

Canlyniad: Roedd y raffl yn llwyddiannus iawn ac wedi codi dros hanner yr arian oedd ei angen. Am ein bod yn cynnal digwyddiad i’r clwb rygbi dyma un busnes yn rhoi un anrheg untro i’r clwb. Codwyd dros y £500 yr oedd ei angen ar gyfer offer.

Eglurwch sut rydych chi wedi gweithio i derfyn amser a'i gyflawni

Bydd yr enghraifft hon yn defnyddio'r dechneg STAR i ateb: Sefyllfa, Tasg, Gweithred, Canlyniad

Cyngor: Gallwch ddefnyddio enghraifft o ddyddiad cau ar gyfer aseiniad yn yr ysgol, coleg neu brifysgol, neu ddyddiad cau ar gyfer gwaith. Gallech hefyd ddefnyddio enghraifft o wirfoddoli neu brofiad gwaith.

Sefyllfa: Roeddwn i’n gweithio rhan amser yng Nghanolfan Gyswllt Cas-bach ac yn y coleg yn astudio Cymraeg.

Tasg: Rhoddodd y tiwtor Cymraeg aseiniad a dyddiad cau i ni a dywedodd y byddai'r aseiniad yn cyfrif tuag at y marc terfynol. Roeddwn newydd gytuno i weithio mwy o oriau yn y ganolfan gyswllt.

Gweithred: Gan fy mod yn gwybod bod amser yn mynd i fod yn dynn gyda'r oriau ychwanegol roeddwn i'n mynd i fod yn gweithio yn y Ganolfan Gyswllt, fe wnes i galendr o'r holl ymrwymiadau gwaith a phob dosbarth. Es i dros yr aseiniad ac ysgrifennu rhestr o bopeth roedd angen i mi ei wneud. Yna ysgrifennais ddyddiad cau wrth ymyl popeth ar fy rhestr. Rhoddais hwn ar y calendr fel bod gennyf gynllun clir i fy helpu. Bob dydd roeddwn yn gwirio'r hyn roeddwn wedi'i gyflawni, ac roedd hyn yn fy ysgogi i barhau i gyflawni'r terfynau amser roeddwn wedi'u gosod i mi fy hun.

Canlyniad: Cyflwynais yr aseiniad mewn pryd. Fe wnes i weithio'r holl shifftiau y gofynnwyd i mi eu gwneud a wnes i ddim colli dosbarth Cymraeg. Cefais radd gyda chlod ar gyfer fy ngwaith cwrs ac es ymlaen i ennill clod cyffredinol ar gyfer fy nghwrs.

Dywedwch wrthyf am her neu wrthdaro rydych chi wedi'i wynebu a sut y gwnaethoch chi ddelio â hyn

Bydd yr enghraifft hon yn defnyddio'r dechneg SCAR i ateb: Sefyllfa, Her, Gweithred, Canlyniad

Mae'r ateb ar gyfer y cwestiwn hwn yn seiliedig ar yr enghraifft o CV cronolegol.

Cyngor: Dewiswch sefyllfa sydd â chanlyniad llwyddiannus. Dywedwch wrth y cyflogwr pa gamau a gymerwyd gennych a'i gwnaeth yn ganlyniad llwyddiannus.

Sefyllfa: Fel rheolydd arlwyo Bakehouse Co, roeddwn yn rheoli deuddeg o safleoedd arlwyo, i gyd mewn gwahanol ardaloedd. Fy rôl i oedd sicrhau bod staff yn cyrraedd eu targedau gwerthu, cynyddu cynhyrchiant, lleihau gwastraff bwyd a chynyddu elw.

Her: Roedd un o'r safleoedd arlwyo yn dechrau cael llai o gwsmeriaid, nid oedd staff yn cyrraedd eu targedau gwerthu ac roedd elw'n gostwng.

Gweithred: Es i ar ymweliad â'r siop a siaradais â'r goruchwylydd a'r holl staff ynghylch pam eu bod yn meddwl bod llai o gwsmeriaid. Archwiliais y safle a'r ardal gyfagos hefyd.

Sefydlais arolwg boddhad syml i'r staff i ofyn i gwsmeriaid ei gwblhau a’u cymell drwy gynnig cynhyrchion pobi am ddim iddyn nhw pe baent yn ei gwblhau. Roedd y rhai wnaeth gwblhau’r arolwg yn fodlon â'r cynhyrchion a'r gwasanaethau.

Wrth gerdded o gwmpas yr ardal, gallwn weld bod siop newydd wedi agor gerllaw yn gwerthu cynnyrch tebyg a'i bod yn denu cwsmeriaid.

Sylwais hefyd fod y biniau gwastraff ac ailgylchu ar gyfer ein safle yng ngolwg ein cwsmeriaid wrth iddynt fynd i mewn i'r siop, ac roeddent yn gorlifo.

Ar y cyd â'r goruchwylydd, fe benderfynwyd hyrwyddo cynnyrch newydd am bris gostyngol am gyfnod penodol i ddenu cwsmeriaid yn ôl. Gan gymryd awgrymiadau staff i ystyriaeth, fe wnaethom drefnu ffordd wahanol o storio'r gwastraff. Fe wnaethom hefyd gofrestru ar gyfer prosiect elusennol i roi bwyd heb ei werthu yn rhodd ar ddiwedd y dydd.

Canlyniad: Roedd y cynnyrch newydd yn llwyddiannus, a denwyd cwsmeriaid yn ôl i'r siop i'r lefelau blaenorol. Felly fe wnaethom barhau i hyrwyddo cynnyrch yn fisol i dynnu sylw at gynhyrchion newydd. Trwy'r rhodd elusennol, lleihaodd y siop y gwastraff bwyd o 15% a chyflwynais y cynllun i'r siopau eraill, gan lwyddo i leihau gwastraff bwyd o 10% yn gyffredinol. Un o sgil-gynnyrch y cynllun rhoddion oedd bod yr elusen wedi ein rhestru ni ar eu gwefan, a dechreuodd mwy o gwsmeriaid ymweld â'r siop o ganlyniad, gan gyfrannu hefyd at gynnydd mewn elw.

Dywedwch wrthyf am adeg pan wnaethoch chi gamgymeriad neu pan wnaethoch chi fethu

Bydd yr enghraifft hon yn defnyddio'r dechneg EAR i ateb: Digwyddiad, Gweithred, Canlyniad

Mae'r ateb ar gyfer y cwestiwn hwn yn seiliedig ar yr enghraifft o CV ymadawyr ysgol.

Cyngor: Mae hwn yn gwestiwn anodd i'w ateb. Mae cyflogwyr eisiau darganfod a allwch chi ddysgu ar ôl gwneud camgymeriad. Dewiswch gamgymeriad a wnaethoch lle gallwch nodi’r hyn a ddysgwyd gennych a sut y gwnaethoch chi newid pethau ar ôl hynny. Byddwch yn ofalus wrth ddewis eich camgymeriad. Cofiwch ddefnyddio enghraifft na fyddai’n niweidio’ch siawns o gael y swydd.

Digwyddiad: Roeddwn i newydd ddechrau gweithio fel Cynorthwyydd Gwerthu mewn Siop Chwaraeon yn Nhref y Porth. Daeth cwsmer at y cownter yn dal pâr o esgidiau yr oedd am eu prynu. Roeddwn wedi cael fy nysgu i wirio'r maint a gwirio gyda'r cwsmer, felly gwiriais faint un o'r esgidiau a chadarnhaodd y cwsmer mai hwn oedd y maint cywir. Cymerais y taliad. Wrth i mi bacio'r esgidiau, sylweddolais fod yr esgidiau yn wahanol feintiau.

Gweithred: Esboniais i'r cwsmer bod yr esgidiau yn wahanol feintiau ac ymddiheuro nad oeddwn wedi gwirio'r ddwy esgid cyn cymryd y taliad. Esboniais y byddwn yn dod o hyd i'r maint cywir a gofynnais a oedd y cwsmer yn iawn i aros. Oedden, a dyma ddod o hyd i’r meintiau esgidiau cywir, gwirio maint y ddwy esgid am yr eilwaith gyda'r cwsmer trwy eu dangos nhw cyn eu pacio nhw eto.

Canlyniad: Roedd y cwsmer yn hapus gyda’r esgidiau a diolchodd i mi am sylwi cyn iddyn nhw adael y siop. Dysgais o'r profiad hwn i wirio pob esgid sy'n cael ei werthu bob tro i sicrhau bod meintiau a lliwiau'n cyfateb cyn eu gwerthu i gwsmer. Dysgais hefyd ddangos maint y ddwy esgid i'r cwsmer i gadarnhau eu bod yn gywir. Sylweddolais ei bod yn bwysig rhoi sylw i fanylion er mwyn rhoi'r gwasanaeth gorau i gwsmeriaid.

Dywedwch wrthyf amdanoch chi'ch hun

Bydd yr enghraifft hon yn defnyddio'r dechneg SET i ateb: Sgiliau, Profiad, Hyfforddiant

Mae'r ateb ar gyfer y cwestiwn hwn yn seiliedig ar yr enghraifft o CV technegol.

Cyngor: Yn yr ateb hwn canolbwyntiwch ar ddweud wrth y cyflogwr am eich sgiliau, eich profiad a'ch hyfforddiant sy'n berthnasol i'r swydd. Nid yw cyflogwyr eisiau clywed hanes eich bywyd - canolbwyntiwch ar wybodaeth sy'n dangos y byddech chi'n dda yn y swydd.

Cyflwyniad: Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel Datblygydd Meddalwedd yn Long Life Health Group ac wedi gweithio yno ers 2018.

Cryfderau: Rwy'n gymwys i ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu gan gynnwys Java, Kotlin, Swift, C++, SQL, a HTML, ymhlith eraill. Rwy'n gweithio'n rheolaidd gyda systemau gweithredu gan gynnwys Android, iOS, Windows, a Linux. Yn ogystal, rwy'n defnyddio ystod o offer yn effeithiol gan gynnwys MATLAB a LabVIEW.

Datrys problemau yw un o’m prif gryfderau ac rwy’n cyfuno hyn â phenderfyniad, llygad craff am fanylion ac awydd cryf a chymhelliant i ychwanegu at fy ngwybodaeth bob dydd. Gyda dysgu ac ymchwil parhaus.

Profiad: Mae gen i dros 10 mlynedd o brofiad mewn datblygu apiau gwe a symudol mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys gofal iechyd preifat, telathrebu, ac awdurdod lleol. Yn Longlife rwyf wedi llwyddo i greu apiau symudol sy'n monitro iechyd personol, apiau sydd wedi cyflawni poblogrwydd a llwyddiant masnachol da ac wedi cynyddu elw’r cwmni o 5%. Fel datblygydd ochr gefn ym maes telathrebu, adeiladais system newydd yn y cwmwl i wneud y gorau o gyflymder a pherfformiad y wefan.

Hyfforddiant: Mae gen i BSc (Anrh) 2:1 mewn Peirianneg Meddalwedd ac ers cyflawni hynny rwy'n ymgymryd â hunan-astudio ac ymchwil yn barhaus mewn meysydd TG i gadw i fyny â'r diwydiant technoleg sy'n symud yn gyflym. Rwyf hefyd yn astudio cymwysterau cysylltiedig fel rheoli prosiectau i ddeall yn well beth sy'n mynd i mewn i brosiect datblygu o ddechrau’r broses i’w diwedd.

Beth yw eich cyflawniad mwyaf?

Mae hyn yn defnyddio thema'r dechneg SET i ateb: Sgiliau, Profiad, Hyfforddiant

Mae'r ateb ar gyfer y cwestiwn hwn yn seiliedig ar yr enghraifft o CV addysgu.

Cyngor: Dewiswch rywbeth rydych chi wedi'i wneud yn eich bywyd rydych chi'n falch ohono a dywedwch pam rydych chi'n falch. Gall hyn fod yn unrhyw beth gan gynnwys cyflawniad chwaraeon, gwirfoddoli, cymhwyster neu gyflawniad gwaith. Gall hyd yn oed fod yn ddatblygiad personol.

Fy nghyflawniad mwyaf oedd defnyddio fy sgiliau addysgu, arwain, a mentora i rymuso cadetiaid awyr iau i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau. Rwyf wedi mentora cadetiaid awyr o bob cefndir ac wedi gweld sut maent yn ffynnu yn yr amgylchedd o anogaeth rwy’n ei ddarparu.

Rwy’n cael cymaint o foddhad o weld cadetiaid awyr yn dysgu adnabod eu sgiliau a’u galluoedd eu hunain, yn ystod alldeithiau. Rwyf hefyd yn mwynhau dysgu gan y cadetiaid awyr. Yn y gorffennol roedd un o'r cadetiaid awyr yn fy sgwadron ar y sbectrwm awtistig a siaradais â nhw am eu hanghenion ac yna gwnes ychydig o hyfforddiant i ddysgu sut i'w cefnogi'n effeithiol. Fe wnaethant ffynnu ac ers hynny rwyf wedi gallu defnyddio'r sgiliau a ddysgais i gefnogi cadetiaid awyr eraill.

Pam ydych chi eisiau'r swydd hon?

Mae'r ateb hwn yn defnyddio'r dechneg SET i ateb: Sgiliau, Profiad, Hyfforddiant

Mae'r ateb ar gyfer y cwestiwn hwn yn seiliedig ar yr enghraifft o CV academaidd.

Cyngor: Darllenwch y swydd-ddisgrifiad a meddyliwch am ba agweddau ohono wnaeth eich denu i'r swydd. Dywedwch wrthyn nhw sut rydych chi’n gweddu i’r hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad, sut y gallwch chi ddod â buddion iddyn nhw, a pham mai chi fydd y person iawn ar gyfer y swydd hon. Ymchwiliwch i'r cwmni a soniwch am straeon cadarnhaol neu agwedd dda ar ddiwylliant eu cwmni sy'n eich denu i weithio iddyn nhw.

Cyflwyniad: Rydych chi'n gofyn am ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth gymhwysol a Ffrangeg, a rhywun â phrofiad mentora a darlithio sy'n cyd-fynd yn union â fy mhroffil.

Sgiliau: Bydd y swydd hon yn fy ngalluogi i ddefnyddio fy sgiliau a pharhau i ddysgu a datblygu ymchwil mewn ieithyddiaeth. Mae gen i sgiliau addysgu cryf gyda gallu profedig i gyfathrebu gwybodaeth newydd a chysyniadau anodd yn effeithiol i fyfyrwyr o sawl cefndir.

Darllenais ar eich gwefan fod gan y brifysgol hon ddiwylliant mentora cefnogol ar gyfer ei myfyrwyr. Rwy'n mwynhau mentora myfyrwyr a'u gweld yn tyfu ac yn datblygu yn academaidd ac yn bersonol.

Mae gen i sgiliau ymchwil cryf a all gyfrannu at nod y brifysgol o arwain y sector mewn ieithyddiaeth.

Mae gennyf gymhelliant uchel i ddysgu a datblygu ac rwy'n ymchwilio'n gyson i wybodaeth newydd ac yn mynd i gynadleddau a hyfforddiant.

Profiad: Mae'r swydd-ddisgrifiad yn nodi bod yr adran ieithyddiaeth yn awyddus i gynyddu ymchwil ar ieithoedd yng Ngogledd Affrica. Gan fod fy ymchwil diweddar, a ariannwyd gan AHRC, yn seiliedig ar ddylanwad Arabeg ar ieithoedd lleol yng Ngogledd Affrica, gallaf gefnogi'r nod hwnnw trwy ymchwil yr wyf wedi'i wneud ac ymchwil barhaus.

Yn ogystal, rwy’n ddarlithydd profiadol ac wedi gweithio fel darlithydd ers dros 5 mlynedd, yn addysgu pynciau gan gynnwys Ieithyddiaeth Gymhwysol, Ffrangeg a chyrsiau TEFL. Cyn hynny roeddwn i'n gweithio fel athro Saesneg ym Moroco, ac fel cynorthwyydd addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd cyn hynny. Hoffwn gael y cyfle i ddod yn ddarlithydd yn y brifysgol hon gan ei bod yn uchel iawn mewn Rhestrau Prifysgolion ar gyfer ieithoedd tramor modern ac ieithyddiaeth.

Hyfforddiant: Mae gennyf y cymwysterau a'r hyfforddiant sy'n bodloni gofynion y swydd hon, PhD mewn Ieithyddiaeth, a chyn hynny MA/PGDip Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill a BA (Anrh) Ffrangeg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol. Mae rhan o'r swydd-ddisgrifiad yn gofyn am oruchwylio traethodau hir.

Yn 2016 enillais wobr ôl-raddedig traethawd hir y flwyddyn a gallaf ddod â fy mhrofiad ac arbenigedd i gefnogi a goruchwylio myfyrwyr wrth iddynt ysgrifennu eu traethodau hir.

Beth yw eich cryfderau mwyaf?

Mae cyflogwyr eisiau gwybod bod eich cryfderau yn cyfateb i'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani.

Mae'r ateb ar gyfer y cwestiwn hwn yn seiliedig ar yr enghraifft o CV ymadawyr ysgol.

Cyngor: Dywedwch wrth gyflogwyr pa sgiliau sydd gennych sydd fwyaf perthnasol i'r swydd. Gallwch ddarganfod hyn o'r swydd-disgrifiad. Rhowch enghreifftiau sy'n profi iddynt fod gennych y sgiliau hynny.

Mae gen i sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a phobl rhagorol. Yn fy swydd fel cynorthwyydd gwerthu, rwy'n helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i'r cynhyrchion cywir ar eu cyfer a chymryd taliadau wrth y ddesg dalu. Rwyf bob amser yn gwrtais a chyfeillgar ac wedi cael canmoliaeth gan fy rheolwr am fy ngallu i ddod ymlaen yn dda â phobl. Rwyf hefyd wedi hyrwyddo cynnyrch yn llwyddiannus a chynyddu gwerthiant trwy egluro sut maent yn gweithio i gwsmeriaid, a sut y byddant yn eu helpu.

Rwy'n weithiwr tîm gwych. Rwy'n chwarae rygbi i dîm lleol ac mae hyn yn waith tîm ar ei orau. Yn y tîm rwy'n gwrando ac yn dilyn cyfarwyddiadau gan fy hyfforddwr a chapten y tîm. Rwy'n helpu fy nghyd-chwaraewyr trwy ymarfer sgiliau trin pêl gyda nhw yn ystod sesiwn hyfforddi. Rwyf hefyd yn cyfrannu fy syniadau ar sut i wella pan fyddwn yn cael sesiynau hyfforddi.

Rwy'n awyddus i ddysgu sgiliau newydd. Fe wnes i brofiad gwaith tra oeddwn i yn yr ysgol er nad oedd hyn yn orfodol, ond roeddwn i eisiau dysgu mwy am swyddi. Rwyf hefyd wedi llwyddo i ennill gwregys du mewn karate trwy hyfforddi’n rheolaidd a gwella fy sgiliau. Rwyf wedi gwella fy sgiliau TG trwy wylio fideos ar YouTube ac ymchwilio.

Beth yw eich gwendidau?

Mae cyflogwyr eisiau gwybod a ydych chi'n gwybod beth yw eich gwendidau ac yn gwybod sut i'w goresgyn. Byddant yn disgwyl ateb difrifol i'r cwestiwn hwn.

Cyngor ar gyfer ateb y cwestiwn hwn:

  1. Meddyliwch am wendid a allai fod yn gryfder hefyd
  2. Dewiswch wendid nad yw'n bwysig i'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani. Er enghraifft, peidiwch â dweud nad ydych chi'n dda ar y ffôn os ydych chi'n mynd am swydd mewn canolfan gyswllt
  3. Defnyddiwch ddull cadarnhaol, negyddol a chadarnhaol yn eich ateb. Dechreuwch gyda rhywbeth positif. Rhowch y gwendid yn y canol a gorffen ar nodyn positif

Gwendidau enghreifftiol

Gallai rhai gwendidau enghreifftiol gynnwys:

  • Diffyg hyder
  • Canolbwyntio gormod
  • Ofn siarad yn gyhoeddus
  • Bod yn berffeithydd (Defnyddir hwn yn rhy aml felly defnyddiwch hwn dim ond os mai hwn yw eich gwendid go iawn a rhowch enghraifft benodol i brofi hynny. Mae cyflogwyr yn aml yn clywed fod hyn yn wendid gan bobl nad ydynt yn berffeithwyr)
  • Ddim yn dda am ddirprwyo tasgau i bobl eraill
  • Dull dysgu
  • Ddim yn gallu dweud na

Ateb enghreifftiol 1

Rwy'n dysgu orau trwy roi cynnig ar bethau fy hun ac yn dysgu'n dda trwy wylio eraill. Nid wyf cystal am ddysgu o ddarllen cyfarwyddiadau a llawlyfrau hyfforddi.

Pan oeddwn yn adolygu ar gyfer fy arholiad Mathemateg, gwyliais athrawon yn esbonio'r problemau ar YouTube a gofynnais i'm hathro eu dangos mewn tiwtorialau. Ond roeddwn i'n gwybod bod angen i mi allu dysgu o ddarllen ar gyfer pynciau eraill, felly fe wnes i gymryd adrannau bach ac yna ymarfer esbonio'r atebion yn uchel. Tynnais luniau o graffiau a diagramau hefyd i'm helpu i ddeall yn well.

Llwyddais i basio fy holl arholiadau ac ennill technegau newydd i fy helpu i ddysgu wrth ddarllen cyfarwyddiadau a gwybodaeth.

Ateb enghreifftiol 2

Rwy'n gweithio ar feithrin fy sgiliau hyder trwy wneud gwaith gwirfoddol sy'n cynnwys cyfarfod a chyfarch pobl a gweithio mewn timau. Rwyf hefyd wedi gwneud rhywfaint o hyfforddiant magu hyder.

Pan fyddaf yn cyfarfod â phobl newydd am y tro cyntaf, weithiau nid wyf yn teimlo'n hyderus y gallaf gyfrannu at sgyrsiau.

Trwy wirfoddoli a’r cyrsiau magu hyder rwyf wedi sylweddoli y gallaf wneud cyfraniad gwerthfawr, ac rwyf nawr yn dechrau mwynhau cyfarfod â phobl newydd. Rwyf hefyd wedi dysgu y gall pobl eraill fod yn teimlo'r un ffordd â mi, felly mae hyn yn fy helpu i ganolbwyntio ar eraill a gwneud iddynt deimlo'n gyfforddus.

Beth sy'n eich cymell?

Mae cyflogwyr eisiau darganfod a fyddwch chi'n cael eich cymell yn y swydd os ydyn nhw'n ei chynnig i chi.

Cyngor ar gyfer ateb y cwestiwn hwn:

  1. Rhowch enghreifftiau o gymhelliant sy'n cyd-fynd â rôl y swydd
  2. Meddyliwch am beth wnaeth eich cymell i wneud cais am y swydd
  3. Peidiwch â sôn am arian, incwm neu delerau ac amodau'r cwmni fel eich cymhelliant

Cymhellion enghreifftiol

Gallai rhai cymhellion posibl gynnwys:

  • Mwynhau datrys problemau
  • Cael boddhad o helpu eraill
  • Gwybod eich bod wedi gwneud gwaith da
  • Darparu gwasanaeth sy'n helpu pobl eraill
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Cwblhau tasg ar amser neu cyn dyddiad cau
  • Cynllunio a threfnu
  • Gweld canlyniadau eich gwaith caled
  • Cymryd cyfrifoldeb ac ymddiried ynddoch chi

Ateb enghreifftiol 1- Gorffen tasg ar amser ac yn gynt na'r disgwyl

Gall yr ateb i'r cwestiwn hwn ddilyn y dechneg STAR.

Rwy'n llawn cymhelliant i gwrdd â therfynau amser neu i gwblhau rhywbeth cyn y dyddiad cau. Pan nad oes gennyf derfyn amser, rwy'n gosod fy nherfynau amser fy hun ac yn gweithio i'w cyflawni.

Pan fyddaf yn gwybod y dyddiad cau ar gyfer prosiect, rwy'n nodi popeth sydd angen i mi ei wneud o fewn y prosiect, a pha mor hir y mae pob tasg yn debygol o gymryd i mi ei wneud. Rwy'n blaenoriaethu tasgau y mae eraill yn dibynnu arnynt i gyflawni eu rhan nhw o'r prosiect, a thasgau a fydd yn cael mwy o effaith ar y prosiect.

Rwy’n dechrau gyda'r tasgau hynny a gyda'r tasgau sy'n cymryd fwyaf o amser. Ar adegau pan fydd bylchau wrth i mi aros am waith gan bobl eraill, byddaf yn gwneud tasgau llai i'w cwblhau'n rhannol neu yn llawn.

Rwy'n cysylltu'n rheolaidd ag aelodau eraill y prosiect ac yn addasu fy mlaenoriaethau yn ôl y gofyn.

Defnyddiais y dull hwn mewn prosiect diweddar. Hwn oedd y prosiect mawr cyntaf i'r cwmni ei gyflawni yn gynt na'r disgwyl.

Ateb enghreifftiol 2 - Dysgu sgiliau newydd

Rwyf bob amser yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd ac i ddatblygu'n barhaus. Rwy'n chwilio am ffyrdd i gynyddu fy ngwybodaeth a fy sgiliau.

Yn ddiweddar cynigiodd fy nghwmni gyfle i ddysgu Cymraeg ac fe wnes i gais am y cyfle hwn. Mynychais gyrsiau ar-lein a chwblhau gwaith cartref. Fe wnes i ymarfer Cymraeg gyda fy nghydweithwyr Cymraeg yn y gwaith pan gefais gyfle i gynyddu fy sgiliau siarad a gwrando.

Ar ôl i’r cwrs orffen, roeddwn i’n gallu siarad â chwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ac ateb galwadau ffôn yn y Gymraeg. Gwellodd hyn y graddau adborth cadarnhaol ar gyfer fy adran, a chawsom ganmoliaeth.

Rydw i ar fin cofrestru ar gwrs coleg i wella fy sgiliau siarad Cymraeg ymhellach. Fy nod yw dod yn rhugl yn y Gymraeg.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Ar ddiwedd llawer o gyfweliadau bydd cyflogwyr yn gofyn i chi a oes gennych chi unrhyw gwestiynau ar eu cyfer nhw. Meddyliwch am gwestiwn y gallwch ei ofyn cyn i chi fynd i mewn i'r cyfweliad.

Cyngor ar gyfer ateb y cwestiwn hwn:

  1. Atebwch yn gadarnhaol bob amser a pharatowch gwestiwn i'w ofyn
  2. Peidiwch â gofyn am gyflogau, gwyliau blynyddol, salwch, neu gynlluniau pensiwn. Dyma'r cwestiynau y byddech chi'n eu gofyn os ydyn nhw'n cynnig y swydd i chi

Cwestiynau y gallech eu gofyn

Bydd cwestiynau y gallech eu gofyn yn amrywio ar gyfer gwahanol swyddi ond dyma rai awgrymiadau:

  • Allwch chi ddweud mwy wrthyf am y tîm y byddaf yn gweithio gyda nhw?
  • Allwch chi ddweud mwy wrthyf am yr adran y byddaf yn gweithio ynddi?
  • I bwy fyddwn i'n adrodd?
  • Allwch chi ddweud wrthyf am ddiwrnod arferol yn y swydd hon?
  • Pa gyfleoedd hyfforddi fydd ar gael?

Cael cefnogaeth

Gall ein cynghorwyr gyrfa a'n hanogwyr cyflogadwyedd eich helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau.

Cysylltwch â ni am fwy o help a chefnogaeth.

Archwilio