Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gwneud cais i'r brifysgol

Mae yna dipyn o waith meddwl a pharatoi ynghlwm wrth wneud cais i brifysgol.

Byddwch yn treulio 3 blynedd neu fwy yn astudio ac yn byw mewn prifysgol o'ch dewis. Bydd cyllido eich astudiaethau hefyd yn ymrwymiad ariannol mawr. Felly, mae'n bwysig gwneud eich ymchwil a dechrau paratoi ar gyfer eich cais yn gynnar. Mae tymor y Gwanwyn ym Mlwyddyn 12 neu'r flwyddyn cyn i chi ddechrau ar eich cwrs yn amser da i ddechrau.

Caiff yr holl geisiadau am gyrsiau addysg uwch eu gwneud yn ganolog trwy UCAS (dolen Saesneg)

Dyddiadau a therfynau amser allweddol UCAS

Israddedigion

Mae'n ddefnyddiol gwybod bod:

  • Dyddiadau allweddol drwy gydol y flwyddyn, er enghraifft pan fydd ceisiadau’n agor a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau
  • Gallwch wirio'r holl ddyddiadau allweddol, dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau a mwy o wybodaeth ar UCAS Key dates (gwefan Saesneg yn unig)
  • Mae dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am feddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth, neu ar gyfer Rhydychen neu Gaergrawnt yn gynharach na mwyafrif y cyrsiau eraill
  • Mae ceisiadau cerddoriaeth i UCAS Conservatoires hefyd yn wahanol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar UCAS conservatoires when to apply (gwefan Saesneg yn unig)
  • Mae'n bwysig eich bod yn gwirio gyda'r prifysgolion unigol am y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Cyn gwneud cais

Ymchwilio'r cwrs

Gwneud yn siŵr eich bod yn dewis y cwrs sy’n iawn i chi yw rhan bwysicaf eich cais. Bydd angen meddwl yn ofalus am sawl penderfyniad:

  • Pa bwnc?
  • Pa gwrs? Dysgwch fwy ar Ddewis cwrs yn 18 oed
  • Llawn amser, rhan-amser neu ddysgu o bell?
  • Beth am gwrs gradd rhyngosod?
  • Beth yw'r rhagolygon o ran gyrfa?
  • Pa gwrs sy'n angenrheidiol ar gyfer eich syniad am yrfa?
  • Beth yw'r gofynion mynediad?

Dechreuwch gydag UCAS Search Tool (dolen Saesneg) er mwyn chwilio am gyrsiau, ac ymchwiliwch yn fanylach o lawer trwy ddefnyddio gwefannau prifysgolion unigol.

Ymchwiliwch i brifysgolion ac ewch i ddiwrnodau agored

Byddwch yn astudio ac yn byw yn y brifysgol a ddewiswch am 3 blynedd neu fwy, felly mae’n bwysig eich bod yn ystyried eich penderfyniad ac yn ystyried y cwestiynau hyn i'ch helpu i benderfynu:

  • A ydych eisiau bod ymhell o’ch cartref neu'n agos ato?
  • A fyddai’n well gennych brifysgol ar gampws neu brifysgol mewn dinas?
  • Pa glybiau neu gyfleusterau prifysgol sy’n bwysig i chi, er enghraifft clybiau chwaraeon prifysgol?
  • Pa mor ddrud fydd byw yn y dref neu’r ddinas?

Gall rhai prifysgolion gynnig cymysgedd o ddiwrnodau agored 'ar-lein' ac 'yn bersonol'.

Gallwch wneud digonedd o ymchwil ar wefannau prifysgolion, ond nid yw hynny byth cystal ag ymweld â’r brifysgol yn ystod diwrnod agored. Defnyddiwch opendays.com (dolen Saesneg) i weld pryd y mae prifysgolion yn cynnal diwrnodau agored ac ewch i weld drosoch eich hun.

Gallwn eich helpu i baratoi a gwneud yn fawr o ddiwrnodau agored prifysgolion.

Dolenni defnyddiol ar gyfer ymchwilio i gyrsiau a phrifysgolion

Paratoi eich cais

Meddwl am unrhyw brawf dawn, prawf derbyn a phortffolios sydd ei angen

Gan ddibynnu ar y cwrs a’r brifysgol, efallai y bydd angen ichi sefyll prawf dawn neu brawf derbyn, neu gyflwyno portffolio o’ch gwaith. Dyma rai enghreifftiau:(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)

Edrychwch ar wefan y brifysgol neu UCAS i weld pa brofion neu gyflwyniadau o fath arall sy’n ofynnol ar gyfer eich cwrs, ynghyd â’r amserlenni ar gyfer sefyll y prawf neu gyflwyno gwaith.

Beth am ymarfer defnyddio profion enghreifftiol ar-lein. Rhowch ddigon o amser i chi eich hun ar gyfer paratoi’r portffolios neu’r cyflwyniadau eraill angenrheidiol.

Gwiriwch yr amserlenni ar gyfer y profion neu ar gyfer cyflwyno gwaith. Cofiwch fod y rhain yn aml yn digwydd cyn dyddiad cau UCAS.

Paratoi ar gyfer profion tueddfryd a mynediad

(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)

Paratoi eich Datganiad Personol

Eich Datganiad Personol yw eich cyfle chi i wneud i’ch cais serennu. Mae eich datganiad personol cyn bwysiced â’r cymwysterau a’r graddau a gewch. Dechreuwch trwy baratoi a drafftio eich datganiad yn fuan. Efallai y byddwch angen llunio sawl drafft cyn ichi fod yn fodlon ag ef:

  • Ewch i wefan UCAS i gael gwybodaeth ar sut i ysgrifennu datganiad personol. Edrychwch ar how to write a UCAS undergraduate personal statement (dolen Saesneg)
  • Ymchwiliwch i enghreifftiau pwnc-benodol o ddatganiadau personol. Ceir rhai enghreifftiau ar  www.thestudentroom.co.uk ac www.universitycompare.com (dolen Saesneg) ond cofiwch beidio â chopïo
  • Ysgrifennwch eich datganiad er mwyn dangos eich addasrwydd a’ch diddordeb yn y cyrsiau yr ydych yn ymgeisio amdanynt. Cofiwch mai un datganiad personol yn unig y gallwch ei gyflwyno ar gais UCAS
  • Gofynnwch i athrawon, ffrindiau a theulu i brawf-ddarllen eich datganiad
Meddyliwch am dystlythyrau addas

Cofiwch y byddwch hefyd angen geirda gan eich ysgol neu eich coleg. Dewch i wybod mwy am ddod o hyd i eirda ar dudalen References for UCAS undergraduate applications (dolen Saesneg).

Rhoi hwb i'ch Datganiad Personol

Dod o hyd i brofiad gwaith a gwirfoddoli

Mae prifysgolion eisiau gweld eich bod wedi ymrwymo i’r cwrs, y pwnc neu’r maes gyrfa. Mae profiad gwaith nid yn unig yn ffordd wych o roi cynnig ar eich syniadau am yrfa, ond hefyd gall helpu i ddatblygu’r sgiliau y byddwch eu hangen a dangos eich angerdd dros y pwnc.

Dewch i wybod sut i wirfoddoli neu gael profiad gwaith.

Cymryd rhan mewn 'Gweithgareddau uwch-gwricwlaidd'

Ffordd arall o ddangos eich ymrwymiad a’ch angerdd dros y pwnc neu’r cwrs yw trwy fynd i’r afael â gweithgareddau cyfoethogi academaidd neu ‘weithgareddau uwch-gwricwlaidd’. Bydd y rhain yn ychwanegol at eich gwaith cwrs arferol. Gallech wneud y canlynol:

  • Darllen am y pwnc, a sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r materion diweddaraf yn y maes
  • Ymuno â chymdeithasau a mynychu darlithoedd ychwanegol
  • Tanysgrifio i gyfnodolyn neu gylchgrawn perthnasol
  • Neu fe allech hyd yn oed sefydlu eich clwb pwnc-benodol eich hun yn eich ysgol neu eich coleg

Bydd y gweithgareddau hyn nid yn unig yn dangos eich ymrwymiad a’ch cymhelliant, ond hefyd eich bod â meddwl ymchwilgar ac angerdd dros ddysgu.

Cewch fwy o syniadau yn yr erthygl 'The 34 Best Super-Curricular Activities for Applicants to Top Universities' ar Oxford Royale Academy. (dolen Saesneg)

Y camau nesaf

Mynychu cyfweliadau a chlyweliadau

Efallai y byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad neu glyweliad. Bydd hyn yn amrywio, gan ddibynnu ar y pwnc a’r brifysgol. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:

  • Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau meddyginiaeth, deintyddiaeth a gwyddor milfeddygaeth, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad
  • Efallai y bydd yn rhaid mynd i gyfweliad ar gyfer cyrsiau galwedigaethol eraill, fel nyrsio
  • Mae Rhydychen a Chaergrawnt yn cynnal cyfweliadau
  • Fel arfer bydd angen mynd i glyweliad ar gyfer cyrsiau yn y Celfyddydau Perfformio

Gwiriwch y manylion derbyn ar gyfer y brifysgol a’r cwrs yr ydych yn ei ystyried. Edrychwch ar undergraduate interview invitations ar UCAS. (dolen Saesneg)

Cyllido eich astudiaethau

Ymchwiliwch i cyllid i fyfyrwyr yn y brifysgol yn gynnar a gwnewch nodyn o'r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am gyllid. Dysgwch fwy ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru


Mwy o wybodaeth

(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)


Efallai i chi hefyd hoffi

Dewis cwrs yn 18 oed

Cael yr help i benderfynu pa gwrs sy'n iawn i chi. Ystyriwch y manteision a'r anfanteision, y cyllid, gofynion mynediad a mwy.

Dyddiau agored mewn prifysgolion

Dysgwch am bwysigrwydd diwrnodau agored i ddewis prifysgol. Cewch yr awgrymiadau gorau am baratoi at ddiwrnodau agored a beth i'w wneud ar y dydd.

Sut i gael profiad

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad. Cewch wybod sut mae ei gael, gan gynnwys drwy brofiad gwaith, gwirfoddoli ac interniaeth.

Cyllid i fyfyrwyr yn y brifysgol

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu. 

Blwyddyn i ffwrdd

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd. 

Beth yw clirio?

Beth sydd angen ichi ei wybod am system glirio'r brifysgol a sut mae ymgeisio drwy system glirio.

Astudio dramor

Manteision ac anfanteision astudio addysg uwch dramor. Dewch i wybod a fyddai astudio dramor yn addas i chi.

Opsiynau yn 18

Eisiau meddwl eto am eich opsiynau? Cymerwch olwg ar eich holl opsiynau yn 18.